Barwniaeth Colwyn

Oddi ar Wicipedia

Mae Barwn Colwyn o Fae Colwyn yn Sir Ddinbych yn deitl ym Mhendefigaeth y Deyrnas Unedig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Crëwyd y farwniaeth ar 22 Mehefin, 1922 ar gyfer y gŵr busnes Syr Frederick Smith, barwnig 1af; fe'i crëwyd yn farwnig ym 1912 cyn cael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth. Mae deiliad presennol y teitl, or-ŵyr y barwn cyntaf, yn un o'r 92 arglwydd etifeddol a gafodd eu hethol gan eu cyd-arglwyddi i barhau'n aelodau o Dŷ'r Arglwyddi wedi pasio Deddf Tŷ'r Arglwyddi ym 1999

Arfbais[golygu | golygu cod]

Ceiliog yn sefyll ar gefn morfil

Arwyddair: Gratias Ago (Lladin, Rhoddaf Diolch)

Deiliaid[golygu | golygu cod]

  • Frederick Henry Smith, Barwn 1af Colwyn (1859-1946)
  • Frederick John Vivian Smith, 2il Farwn Colwyn (1914-1966)
  • Ian Anthony Hamilton-Smith, 3ydd Barwn Colwyn (g. 1942)

Yr etifedd tybiedig yw mab y deiliad presennol yr Anrhydeddus Craig Peter Hamilton-Smith (g. 1968)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]