Bariau (cyfres deledu)
| Bariau | |
|---|---|
| Genre | Drama |
| Serennu | Annes Elwy, Gwion Tegid |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Nifer cyfresi | 2 |
| Nifer penodau | 12 (Rhestr Penodau) |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | tua 30 munud |
| Cwmnïau cynhyrchu |
Rondo Media |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
| Dolenni allanol | |
| Proffil IMDb | |
Drama deledu yw Bariau. Mae wedi'i leoli mewn carchar dynion ac wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn. Awdur y gyfres yw Ciron Gruffydd a'r cyfarwyddwr yw Griff Rowland. Cynhyrchwyd y gyfres gan Rondo Media ac fe'i ffilmiwyd yn Stiwdios Ffilm Aria yn Llangefni.[1]
Mae 6 pennod ymhob cyfres. Mae'r gyfres yn ymrafael â sawl pwnc cignoeth a heriol ac felly darlledwyd y gyfres mewn slot hwyr.[2] Dangoswyd y ddrama ar nos Wener am 10.40pm ar S4C gyda'r gyfres gyntaf ym mis Ionawr 2024. Cychwynnodd ail gyfres ar 13 Ebrill 2025 yn y slot ddrama arferol ar nos Sul am 9pm.[3]
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama wedi ei osod mewn carchar ffuglennol yng Nghymru 'HMP Glannau'. Mae'r ddrama yn ddwyieithog sy'n adlewyrchu natur y sefydliad gyda carcharion o Gymru a Lloegr. Adeiladwyd set carchar gyda 24 cell dros ddwy lawr yn Stiwdios Aria, Llangefni. Sefydlwyd y stiwdios gan Rondo Media a changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Agorodd y stiwdios ym mis Hydref 2022 a mae'n cynnwys dau lwyfan sy'n darparu 20,000 troedfedd sgwâr o ofod ffilmio.
Roedd y cynhyrchiad yn cyflogi tua 80 o bobl, gan gynnwys 18 o gyn weithwyr ffatri ieir 2 Sisters – ffatri fawr yn Llangefni a gaeodd ei drysau yn 2023.[1]
Cast a chymeriadau
[golygu | golygu cod]- Annes Elwy fel Elin
- Gwion Tegid fel Barry
- Adam Woodward fel Kit
- Bill Skinner fel George
- Rolant Prys fel Ned
- Mali Tudno Jones fel Linda
- Mair Tomos Ifans fel Cath
- Glyn Pritchard fel Peter
- Hywel Morgan fel Mitchell
- Dion Lloyd fel Davies
- Cadfan Roberts fel Roberts
- Gwen Ellis fel Margaret
- Gabin Kongolo fel Hussein
- Iago Patrick McGuire fel Graham
- Lily Beau fel Morwenna
- Iwan Garmon fel Dale
Penodau
[golygu | golygu cod]Cyfres 1
[golygu | golygu cod]| # | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [4] |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | "Pennod 1" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 5 Ionawr 2024 | 24,000 |
| Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un. | |||||
| 2 | "Pennod 2" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 12 Ionawr 2024 | 32,000 |
| Wrth i Barry ddod dan bwysau am ei benderfyniad annoeth werthu'r cyffuriau oedd o wedi eu darganfod, mae'n ceisio dal pen rheswm gyda'r perchennog. Pan mae hynny'n gwneud y sefyllfa'n waeth, does ganddo ddim dewis ond mynd mewn i bartneriaeth gyda Kit. Mae Peter yn edrych ymlaen at ymweliad ei fam, ond mae amgylchiadau tu hwnt i'w reolaeth yn ei wthio dros y dibyn. Mae perthynas Elin a George yn poethi, ond mae gan Elin ei amheuon. | |||||
| 3 | "Pennod 3" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 19 Ionawr 2024 | 18,000 |
| Mae Barry'n gorfod wynebu realiti gweithio i Kit. I wneud pethau'n waeth, mae'n cael ymweliad gan ei frawd bach, Dale, sy'n datgelu ei fod mewn trafferthion ariannol dybryd. Er bod Barry'n ceisio ei helpu, mae'r sgwrs yn troi'n ffrae ac mae Dale yn gadael dan gwmwl. Mae Elin yn sylweddoli bod George wedi ei thwyllo wedi'r cwbl, ac mae'n gwneud yn amlwg iddi fod ganddi ddim dewis ond mynd yn erbyn ei hegwyddorion. Wrth i Barry ailfeddwl ei berthynas gyda Kit, mae'n cael gwybodaeth sy'n golygu na | |||||
| 4 | "Pennod 4" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 26 Ionawr 2024 | 30,000 |
| Yn difaru ei ffrae gyda Dale, a gyda Kit yn ei reoli fel pyped, mae'r pwysau'n ormod i Barry ac mae'n troi at ddulliau treisgar i gael gwared a'i rwystredigaeth. Mae Peter yn cael newyddion drwg sy'n ei arwain i le tywyll iawn ac mae ymateb Linda'r caplan i'w ddatganiad yn torri ei galon. Mae Elin yn darganfod mai Kit sydd tu ôl i'r ymgais i'w blacmelio, ac mae hi'n penderfynu mai'r unig ffordd allan iddi yw i'w herio wyneb yn wyneb. | |||||
| 5 | "Pennod 5" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 2 Chwefror 2024 | dan 17,000 |
| Mae Barry'n darganfod bod ei fywyd mewn perygl oherwydd y gwaith mae'n gwneud i Kit, a phan mae Dale yn cerdded mewn i'r wing fel carcharor, mae ei ben ar chwâl yn llwyr. Wrth i Elin a Ned gael eu galw i weld y Warden, maen nhw'n darganfod bod y wing yn cael ei roi dan fesurau arbennig ac mae eu swyddi yn y fantol. Mae Elin yn cytuno smyglo cyffuriau mewn i'r carchar i Kit, ond pan mae hi'n darganfod bod Barry'n gweithio i Kit, mae ganddi un gobaith arall i ddod a'r hunlle i ben. | |||||
| 6 | "Pennod 6" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 9 Chwefror 2024 | dan 21,000 |
| Wrth i Elin gyrraedd y carchar yn y bore, yn cario cyffuriau i Kit, mae hi'n cael sioc wrth glywed bod y carchar yn cael adolygiad y diwrnod hwnnw. Gyda'r cyffuriau yn gorfod aros ar y tu allan, mae Barry'n cael traed oer ac yn penderfynu nag allith o helpu Elin rhagor. Mae Kit yn colli amynedd gyda phawb sy'n gweithio iddo ac yn bygwth Elin, ond mae hi'n llwyddo i ddod o hyd i'r nerth i dorri'n rhydd o'r diwedd. Mae digwyddiadau'r wythnosau diwethaf yn torri Barry, ond mae ei berthynas gyda Lin | |||||
Cyfres 2
[golygu | golygu cod]| # | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [4] |
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | "Pennod 1" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 13 Ebrill 2025 | I'w gyhoeddi |
| Wrth i Barry geisio cadw rheolaeth ar y wing, mae dyfodiad aelodau newydd o staff yn gwneud bywyd yn anodd iddo. | |||||
| 2 | "Pennod 2" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 20 Ebrill 2025 | I'w gyhoeddi |
| Mae cyflenwad newydd o gyffuriau yn achosi cur pen i Barry. Dyw dulliau rheoli Simon yn plesio neb ac mae Dale yn dechrau cwrs newydd. | |||||
| 3 | "Pennod 3" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 27 Ebrill 2025 | I'w gyhoeddi |
| Yn y bennod hon, mae Barry'n gorfod cymryd safiad cadarn i adennill rheolaeth. Mae Roberts yn gwneud aberth i ryddhau ffrind, a daw Peter i wybod y gwir am ei ffrind gorau. | |||||
| 4 | "Pennod 4" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 4 Mai 2025 | I'w gyhoeddi |
| Mae Barry mewn twll sy'n amhosib dianc ohono, ac mae iechyd meddwl Peter yn gwaethygu. Mae Simon yn dyfeisio cynllun i gael gwared ar Barry, ac mae Dale yn meddwl am ei ddyfodol. | |||||
| 5 | "Pennod 5" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 11 Mai 2025 | I'w gyhoeddi |
| Wrth i rwyd Simon gau o'i gwmpas, mae Barry'n cael gair i gall gan Linda. Mae Chloe'n gwneud camgymeriad peryglus, ac mae Peter yn dangos ei wir liwiau. | |||||
| 6 | "Pennod 6" | Griff Rowland | Ciron Gruffydd | 18 Mai 2025 | I'w gyhoeddi |
| Gyda Peter wedi colli rheolaeth, mae'n rhaid cymryd camau eithafol er mwyn ceisio ei stopio. Mae Simon yn sylwi nad oes ganddo ffrindiau ar ol ac mae Dale yn gwneud ffrindiau newydd. | |||||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-12-14.
- ↑ "'Bariau' yn dychwelyd am ail gyfres yn 2025". Golwg360. 2024-03-12. Cyrchwyd 2024-12-14.
- ↑ "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-12-14.
- ↑ 4.0 4.1 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Bariau ar wefan Internet Movie Database