Barbwda
Gwedd
| Math | ynys, dependency of Antigua and Barbuda |
|---|---|
| Prifddinas | Codrington |
| Poblogaeth | 1,638 |
| Cylchfa amser | UTC−04:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Leeward, Antilles Leiaf, Ynysoedd y Windward |
| Lleoliad | Y Caribî |
| Sir | Antiga a Barbwda |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 161 km² |
| Uwch y môr | 122 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 17.64°N 61.81°W |
| AG-10 | |
| Hyd | 24 cilometr |
![]() | |
Ynys ym Môr y Caribî yw Barbwda. Mae'n un o'r Ynysoedd Leeward yn yr Antilles Lleiaf, ac yn ffurfio rhan o wladwriaeth Antiga a Barbwda. Mae'r boblogaeth tua 1,600, y mwyafrif yn byw yn y brif dref, Codrington.
Saif Barbwda i'r gogledd o ynys Antiga. Glaniodd Christopher Columbus yma yn 1493, pan oedd y boblogaeth frodorol yn bobl Arawak a Carib. Meddiannwyd yr ynys gan y Saeson yn 1666, ac yn 1685 fe'i rhoddwyd ar lês i'r brodyr Christopher a John Codrington, a sefydlodd dref Codrington. Mewnforiwyd caethweision, gyda rhai ohonynt yn cael ei trosglwyddo i blanhigfeydd siwgwr Antiga.

