Barbara Honigmann

Oddi ar Wicipedia
Barbara Honigmann
Ganwyd12 Chwefror 1949 Edit this on Wikidata
Dwyrain Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, arlunydd Edit this on Wikidata
TadGeorg Honigmann Edit this on Wikidata
MamLitzi Friedmann Edit this on Wikidata
PriodPeter Honigmann Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Llenyddiaeth Aspekte, Gwobr Max Frisch, Gwobr Ricarda-Huch, Nicolas-Born-Preis für Lyrik, Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Goethe, Jeanette Schocken Prize Edit this on Wikidata

Awdures Almaenig yw Barbara Honigmann (ganwyd 12 Chwefror 1949) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cymhyrchydd theatr ac arlunydd.

Fe'i ganed yn wyrain Berlin ar 12 Chwefror 1949. [1][2][3]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Dihangodd ei rhieni Iddewig o'r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan ymsefydlu yn Lloger, cyn dychwelyd i Ferlin yn 1947, lle ganed Barbara Honigmann. Ei mam oedd Litzi Friedman (1910-1991) a elwir hefyd yn Alice nee Kohlmann, a'i thad oedd Georg Honigmann, Ph.D (1903-1984). Ganed ei mam yn Fienna, Awstria a gweithiodd yn dybio ffilmiau. Ganed ei thad yn Wiesbaden, yr Almaen ac roedd yn brif olygydd y "Berliner Zeitung" ac yn wneuthurwr ffilmiau. Ysgarodd y ddau yn 1954, a Barbara'n ddim ond 6 oed.[4]


Rhwng 1967 a 1972, astudiodd theatr ym Mhrifysgol Humboldt yn Nwyrain Berlin. Yna bu'n gweithio fel dramodydd a chyfarwyddwr yn Brandenburg a Berlin am rai blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn awdur llawrydd ers 1975. Yn 1981, priododd Peter Obermann a gymerodd ei chyfenw'n ddiweddarach; aeth y ddau ymlaen i gael dau blentyn gyda'i gilydd, Johannes (g. 1976) a Ruben (g.1983). Ym 1984, gadawodd hi a Peter y GDR a symudodd y teulu i gymuned Iddewig (a hanai o'r Almaen) yn Strasbourg, Ffrainc.[5] [6][7]

Theatr[golygu | golygu cod]

Gweithiodd Honigmann am flynyddoedd lawer mewn theatr. Yn ogystal â gweithio yn Brandenburg, gweithiodd hefyd yn y Deutsches Theatre yn Berlin. Yn ddiweddarach newidiwyd rhai o'r dramâu a ysgrifennodd yn ddramâu radio. Mae gan ei dramâu a'i dramâu radio elfennau o straeon tylwyth teg neu fywydau hanesyddol wedi'u gweu ynddynt. Dyfarnwyd un o ddramâu radio Honigmann yn "ddrama radio y mis" gan Orsaf Radio De'r Almaen.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi y Gwyddorau a Llenyddiaeth, a'r Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Llenyddiaeth Aspekte (1986), Gwobr Max Frisch (2011), Gwobr Ricarda-Huch (2015), Nicolas-Born-Preis für Lyrik (1994), Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer (2012), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (2020), Gwobr Goethe (2023), Jeanette Schocken Prize (2001)[8] .
  • 1986 - Aspekte-Literaturpreis
  • 1992 - Stefan-Andres-Preis
  • 1994 - Nicolas-Born-Preis
  • 1996 - Ehrengabe der Deutschen Schillerstiftung
  • 2000 - Kleist Prize
  • 2001 - Jeanette-Schocken-Preis
  • 2004 - Solothurner Literaturpreis
  • 2004 -Koret Jewish Book Award

Gwaith[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: "Barbara Honigmann". "Barbara Honigmann". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  4. "Barbara Honigmann | Jewish Women's Archive". jwa.org. Cyrchwyd 2018-12-10.
  5. "Barbara Honigmann - Was verbindet den Talmud und Ihre Romane?". Deutschlandfunk Kultur (yn Almaeneg). Cyrchwyd 2018-12-10.
  6. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 30 Mawrth 2015
  7. Anrhydeddau: http://jeanette-schocken-preis.de/?p=33.
  8. http://jeanette-schocken-preis.de/?p=33.