Bara banana

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bara Banana)
Tafellau o fara banana.

Mae bara banana yn fath o gacen wedi'i wneud o fananas stwnsh.[1] Yn aml mae'n fara cyflym llaith, melys, tebyg i gacen; fodd bynnag mae yna rai ryseitiau ar gyfer bara banana sy'n fara go iawn yn yr arddull draddodiadol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth bara banana i ymddangos yn gyntaf mewn llyfrau coginio safonol Americanaidd wrth i boblogrwydd soda pobi a phowdr codi tyfu yn yr 1930au. Ymddangosodd bara banana yn llyfr coginio gan Pillsbury's o'r enw Balanced Recipes yn 1933,[2] ac yna daeth yn fwy poblogaidd wrth ryddhau Chiquita Banana's Recipe Book yn wreiddiol ym 1950.[3]

23 Chwefror yw Diwrnod Cenedlaethol Bara Banana yn America.[4] Ymddangosodd bananas yn yr UD yn yr 1870au a chymerodd ychydig o amser iddynt ymddangos fel cynhwysyn ar gyfer pwdinau. Dechreuodd y rysáit bara banana fodern[5] gael ei gyhoeddi mewn llyfrau coginio tua'r 1930au a chafodd ei boblogrwydd ei gynorthwyo'n fawr trwy gyflwyno powdr codi i'r farchnad. Mae rhai haneswyr bwyd yn credu bod bara banana yn sgil-gynnyrch y Dirwasgiad Mawr gan nad oedd gwragedd tŷ dyfeisgar yn dymuno taflu bananas rhy aeddfed, gan eu bod yn dal i fod yn eitem gostus i'w brynu. Mae eraill yn credu bod y bara banana modern wedi'i ddatblygu mewn ceginau masnachol er mwyn hyrwyddo blawd a chynhyrchion soda pobi. Gallai hefyd fod yn gyfuniad o'r ddwy ddamcaniaeth, i'r graddau datblygodd mewn cegin masnachol er mwyn hyrwyddo cynhyrchion blawd a soda pobi, yn ogystal â'u marchnata fel dull i ddefnyddio bananas rhy aeddfed.[6]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

  • Bara banana arferol.
  • Bara banana rhesins.
  • Bara banana cnau - mae gnau wedi'u torri, yn aml cnau Ffrengig neu pecanau, yn cael eu hychwanegu i'r rysáit.
  • Bara banana darnau siocled - ychwanegir darnau siocled i'r rysáit.
  • Myffins bara banana
  • Bara banana fegan (nid yw'n cynnwys y cynhyrchion llaeth na'r wyau).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Barrowman, John. "Food Recipes-Banana Bread". BBC. Cyrchwyd 14 Mai 2012.
  2. Ames, Mary Ellis (1933). "1 - Breads". Balanced Recipes. Minneapolis, Minnesota: Pillsbury Flour Mills Company. t. 3.
  3. "Original Chiquita Banana Bread". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mehefin 2011. Cyrchwyd 5 Mehefin 2011.
  4. "American Holidays". statesymbolsusa.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-17. Cyrchwyd 8 Medi 2015.
  5. "Modern Banana Bread Recipe". foodtolove.com.au. Cyrchwyd 18 Mai 2016.
  6. "Banana Bread History and Variations". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2015. Cyrchwyd 20 Ebrill 2015.