Neidio i'r cynnwys

Bangor Conwy Môn (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Bangor Conwy Môn
Enghraifft o:ardal etholiadol arfaethedig, etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Etholaeth y Senedd (Llywodraeth Cymru) yw Bangor Conwy Môn, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. 'Bangor Aberconwy Môn' a awgrymwyd yn wreiddiol, ond symlhawyd yr enw hwnnw i 'Fangor Conwy Môn' yn Rhagfyr 2024.[1] Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Bydd yr etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (ASau).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2026 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy etholaeth Senedd y DU, sef Bangor, Aberconwy ac Ynys Môn. Bydd adolygiad arall o'r ffiniau cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd yr enw a'r ffiniau Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym mis Mawrth 2025. [2]

Mae'n cynnwys Ynys Môn yn gyfan, a rhannau o: Fwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Mae'r etholaeth i'w sefydlu erbyn 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod a'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" mwy, gan uno 32 etholaeth Senedd y DU yng Nghymru, a defnyddio system bleidleisio newydd sy'n gwbl gyfrannol, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (ASau) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[3]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]
Etholiad nesaf y Senedd: Bangor Gwynedd Môn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders - - -
Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth
Mair Rowlands
Elfed Willians
Dyfed Jones[4]
- - -

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Proposed Senedd constituency names divides opinion". ITV News. 17 December 2024.
  2. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  3. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  4. https://golwg.360.cymru/newyddion/2178026-rhun-iorwerth-rhestr-plaid-mangor-aberconwy