Baner Ynysoedd Ffaröe

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Baner Ynysoedd Faroe)
Jump to navigation Jump to search
Baner Ynysoedd Ffaröe
Fersiwn 'gwennol' o'r faner, answyddogol on poblogaidd yn yr Ynysoedd
Y faner wreiddiol yn cael eu harddangos yn eglwys Fámjin

Croes Lychlynaidd goch yn fewnol, glas yn allanol ar faes gwyn yw baner Ynysoedd Ffaröe, a elwir yn y Merkið. Mae'r ynysoedd yn genedl hunan-lywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc.

Ystyr yr enw Merkið yn syml ac yn gyffredinol yw baner neu farc ond fe'i defnyddir gan amlaf i gyfeirio'n uniongyrchol at faner yr ynysoedd hyn.

Dyluniad a symbolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel gwlad Nordig a'i phoblogaeth yn ddisgynyddion i'r Llychlynwyr mae'r Merkið yn dilyn dyluniad adnabyddus y 'Groes Nordaidd' lle gorwedda'r groes i'r chwith o'r canol. Yn fwy penodol mae'n dilyn patrwm baneri Norwy a Gwlad yr Iâ lle ceir dwy groes ar ben ei gilydd yn hytrach nag un fel y gwelir ym maneri Sweden, Denmarc a'r Ffindir.

Gorwedda croes goch gydag ymyl las ar gefndir wen.

Mae'r coch a'r glas yn liwiau a welir ym maneri eraill gwledydd Llychllyn ac yn dynodi perthynas agos yr ynysoedd gyda'r byd hwnnw. Mae'r gwyn yn symbol o ewyn y môr ac awyr gwyn pur yr Ynysoedd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfeiswyd y faner yn 1919 gan Jens Oliver Lisberg ac eraill tra oedd yn fyfyriwr yn Copenhagen, prifddinas Denmarc. Chwifiwyd y faner am y tro cyntaf ar Ynysoedd Ffaröe mewn priodas ar 22 Mehefin 1919 ym mhentref Fámjin ar Suðuroy, ynys fwyaf deheuol yr ynysfor.

Ar Ebrill 1940 a chyda Denmarc wedi ei meddiannu gan y Natsïaid ac heb reolaeth dros yr Ynysoedd fe lansiodd Llywodraeth Prydain dan gyfarwyddid Winston Churchill 'Operation Valentine' er mwyn cipio Ynysoedd Ffaröe a sicrhau na byddent yn cael eu meddianu gan yr Almaenwyr. Roedd gan yr ynysoedd hyd at hynny statws amt (sir) yn unig o fewn gwladwriaeth Denmarc. Ar 23 Ebrill 1940 yn dilyn trafodaethau gyda'r awdurdodau Danaidd a chyngor Løgting yr Ynysoedd, penderfynodd Llywodraeth Prydain gydnabod y faner ar longau a chychod Ynysoedd Ffaröe. Yn dilyn y statws 'rhyngwladol' hwn fe gydnabu Denmarc y faner fel baner genedlaethol Ynysoedd Ffaröe yn Neddf Hunanlywodraeth 23 Mawrth 1948.

Fe ddethlir 25 Ebrill yn flynyddol hyd heddiw fel gŵyl genedlaethol Flaggdagur (diwrnod y faner).

Mae'r faner wreiddiol a chwifiwyd yn 1919 i'w gweld yn eglwys Fámjin yn Suðuroy.

Baneri eraill Ynysoedd Ffaröe[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oedd gan Ynysoedd Ffaröe unrhyw statws genedlaethol cyn Deddf Hunanlywodraeth 1948. Cyn hynny roedd ond yn sir o fewn teyrnas Denmarc.

Defnyddiwyd baner Denmarc neu faner Undeb Kalmar ganddi (os o gwbl).

Yn ystod y 19 ganrif ceir enghreifftiau o faneri o ddafad neu faharen wen 'passant' ar gefndir las o fewn ffrâm coch. O gofio mai ystyr 'Føroyar' yw 'dafad' does dim syndod i symbol mor amlwg gael ei ddefnyddio.

Defnyddiwyd maharen gorniog ar gefndir las fel arfbais Senedd Ynysoedd Ffaröe, y Løgting. Bellach, ers 1 Ebrill 2004 cyhoeddodd swyddfa Prif Weinidog yr Ynysoedd y byddai ei Weinidogion a'i swyddfeydd yn defnyddio arfbais Ffaröe ar wedd newydd, wedi ei seilio ar gynllun ar seddi yn Kirkjubøur, cartref esgobaeth yr Ynysoedd. Addaswyd rhywfaint ar y cynlluniau blaenorol gan dynnu ar ysbrydoliaeth o liwiau'r faner. Ychwaengwyd tafod goch a hefyd lliw melyn eurog i'r carnau a'r cyrn. Caiff yr arfbais ei defnyddio gan aelodau'r Cabinet a chynrychiolwyr swyddogol yr Ynysoedd.

Y Faner mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelir y Merkið mewn fideo i'r gân "Declare Independence Declare Independence" gan y gantores, Björk. Yn y gân mae'r gantores, sy'n dod o Wlad yr Iâ (gwlad oedd yn drefedigaeth i Ddenmarc ac sydd ag iaith debyg iawn i'r Ffoareg) yn ceisio ysbrydoli cenhedloedd i gyhoeddi eu hanibyniaeth. Gwelir baner Ynysoedd Ffaröe a'r Ynys Las (sydd hefyd yn rhan o deyrnas Denmarc) yn y fideo.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002).