Baner Undeb Cenhedloedd De America
| Enghraifft o: | baner |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2008 |
| Dynodwyr | |


Baner UNASUR a gynigwyd gan Alan García yn 2008.
Mae baner Undeb Cenhedloedd De America neu baner UNASUR; (Sbaeneg: Unión de Naciones Suramericanas, UNASUR; Portiwgaleg: União de Nações Sul-Americanas, UNASUL; Iseldireg: Unie van Zuid-Amerikaanse Naties, UZAN;) adwaenir y corff fel rheol gan ei thalfyriad Sbaeneg, UNASUR. Mae Undeb Cenhedloedd De America yn gorff rhyng-lywodraethol rhanbarthol sy'n cynnwys 12 gwladwrieth yn Ne America. Arwyddwyd Cytundeb Drafod y corff ar 23 Mai 2008 ond bu trafferthion a diffyg cyd-dynnu ers hynny. Er mai dyma'r faner neu'r logo a ddefnyddir gan UNASUR nid yw wedi ei fabwysiadu'n swyddogol gan y corff.
Mae'r baner yn cynnwys maes las gyda cyfes o linellau gwyn sy'n ymdebygu i gorwynt ond sy'n debyg mewn siâp i gyfandir De America.
Cyd-destun Baner Pan-De America
[golygu | golygu cod]Ceir hefyd faner arall rhyng-De America. Cynigiwyd hi gan Arlywydd Periw, Alan Garcia, yn 2008. Mae'r faner yma yn goch ac arni fap o Dde America oddi fewn i gylch. Mae'r faner yn goch a'r map a'r cylch yn aur. Ysbrydolwyd a seiliwyd y faner yma gan gynllun blaemorol y gwleidydd a'r athronydd o Beriw, Victor Raul Haya de la Torre.[1] Roedd Haya o blaid undod gwledydd y cyfandir i greu gor-wladwrieth Indoamerica. Datblygwyd y syniadau yma yn yr 1920au a 30au. Roedd baner wreiddiol Hoya yn cynnwys map aur o Dde America o fewn cylch neu glôb gwyrdd ar lain goch. Addaswyd hwn yn hwyrach i fod yn faner deuliw, map De America a chylch aur ar gefndir coch.[2]
Baner rhagdybiol Undeb Gwladwriaethau Indoamerica (ers 1928)- Baner wedi'i hysgogi gan ddilynwyr Haya
- Víctor Raúl Haya de la Torre
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan UNASUR Archifwyd 2019-02-17 yn y Peiriant Wayback
- baner UNASUR ar Flags of the World
| |||||||||||