Baner Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia

Cynlluniwyd Baner Sir Benfro yn 2008 gan ddwy artist tecstilau: Eirian Short ac Audrey Walker a'i harddangos gyntaf yng Ngorymdaith Genedlaethol Gŵyl Ddewi ar 1 Mawrth 2009.[1] Fe'i seiliwyd ar eiriau Anthem Genedlaethol Gŵyl Ddewi (Cenwch y Clychau i Ddewi) gan Gwenno Dafydd a rhai o nodweddion pensaernïol Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Phalas yr Esgob.

Gwnaed y faner gan aelodau o Gild Brodio Sir Benfro a Chymdeithas Gelfyddydau Abergwaun. Gellir ei gweld yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.

Rhai symbolau[golygu | golygu cod]

  • Gwenyn a mêl, yn symbol Celtaidd a gysylltir gyda Dewi Sant.
  • Hadau'n egino: yn symbol o eiriau honedig Dewi: Gwnewch y pethau bychain'.
  • Y môr: nodwedd o arfordir Sir Benfro.
  • Gwyddbwyll: ceir patrwm y bwrdd gwyddbwyll ym muriau Palas yr Esgob.
  • Nenfwd pren yr eglwys
  • Cloch: Cennwch y clychau i Ddewi medd awdur geiriau'r Anthem, sef Gwenno Dafydd.
  • Symbolau ar gerrig muriau'r gadeirlan.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]