Bandcamp
| Enghraifft o: | online music store, digital distribution platform, music streaming service |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2007 |
| Perchennog | Songtradr |
| Rhiant sefydliad | Songtradr, Epic Games |
| Pencadlys | Oakland |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://bandcamp.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dsdjz3 |
| Quora | Bandcamp |
Mae Bandcamp yn wefan ar gyfer rhannu cerddoriaeth a lansiwyd yn 2008. Mae'n gwasanaethu fel platfform e-fasnach lle gall artistiaid a labeli recordiau lanlwytho cerddoriaeth y gellir ei werthu a'i ffrydio. Mae'r prisiau'n cael eu pennu gan y cwmnïau recordiau a'r artistiaid eu hunain.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuwyd Bandcamp yn 2008 gan Ethan Diamond a Shaun Greenberger. Y cystadleuydd mwyaf ar y pryd, ar gyfer marchnata cerddoriaeth ar y rhyngrwyd, oedd Myspace.
Enillodd y platfform lawer o sylw yn 2010, pan benderfynodd Amanda Palmer roi'r gorau i ryddhau cerddoriaeth trwy labeli recordiau ac yn lle hynny gwerthu recordiau yn uniongyrchol trwy Bandcamp, gyda chymorth marchnata trwy Twitter (X bellach). Yn ddiweddarach mae hi hefyd wedi cymryd help gan ymgyrch torfoli ar gyfer ei chynyrchiadau.[2] Hyd at 2015, amcangyfrifwyd bod yr hyn sy'n cyfateb i US$100 miliwn wedi'i dalu i artistiaid yn ystod wyth mlynedd gyntaf Bandcamp.[3]
Yn 2015, lansiodd Bandcamp ei wasanaeth cyllido torfol ei hun,[4] fel dewis arall i wasanaethau fel Kickstarter, Patreon, a Verkami o Sbaen.
Arwyddocâd
[golygu | golygu cod]Mae Bandcamp wedi bod yn llwyddiannus yn bennaf gydag artistiaid gyda llai o drosiant a ffigurau gwerthiant is.[3] Mae rhai'n credu bod Bandcamp a gwasanaethau e-fasnach tebyg eraill yn helpu i leihau copio cerddoriaeth yn anghyfreithlon.[5]
Model busnes
[golygu | golygu cod]Mae artistiaid a labeli yn lanlwytho cerddoriaeth i Bandcamp ac yn rheoli sut maen nhw'n ei gwerthu, gan osod eu prisiau eu hunain, cynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr dalu mwy,[6] a gwerthu nwyddau.
Mae'r cwmni'n cymryd comisiwn o 15% ar werthiannau a wneir drwy ei wefan, sy'n gostwng i 10% ar ôl i werthiannau artist fynd dros US$5,000, ynghyd â ffioedd prosesu taliadau.[7]
Cynigir lawrlwythiadau mewn fformatau colledus MP3 (LAME, 320k neu V0), AAC ac Ogg Vorbis, ac mewn fformatau di-golled FLAC, ALAC, WAV ac AIFF.[8]
Yn 2021, ehangodd Bandcamp raglen wasgu finyl sy'n caniatáu i artistiaid ariannu rhediadau cynhyrchu; nododd sylw'r diwydiant fod cefnogwyr wedi prynu tua dwy filiwn o LPs finyl ar y platfform yn 2020, dwbl cyfanswm 2019.[9]
Bandcamp a'r Sîn Roc Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae grwpiau ac artistiaid yn y Sîn Roc Gymraeg wedi gwneud defnydd o blatfform gwerthu cerddoriaeth Bandcamp gan gynnwys Recordiau Sbensh sy'n llwyfannu sawl artist megis Gai Toms a Brython Shag.[10] Ceir hefyd hen recordiau megis 'Hei Vidal' gan Ffa Coffi Pawb ar y platfform.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "A Tale Of Two Ecosystems: On Bandcamp, Spotify And The Wide-Open Future". National Public Radio (NPR). 19 Awst 2020. Cyrchwyd 5 Medi 2020.
- ↑ Conditt, Jessica (13 Rhagfyr 2019). "The crowdfunded cult of Amanda Palmer". Engadget. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- 1 2 McIntyre, Hugh (10 Mawrth 2015). "Direct-To-Fan Platform Bandcamp Has Now Paid Artists $100 Million". Forbes. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ "Bandcamp Opens Up Artist Patronage (You Can Call Them Subscriptions) to Everyone". Billboard. 17 Medi 2015. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ "Spotify Isn't Killing Record Sales and Is Reducing Piracy". routenote.com. 28 Hydref 2015. Cyrchwyd 10 Medi 2020.
- ↑ "Bandcamp Help". Bandcamp. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2018. Cyrchwyd 17 Medi 2018.
- ↑ James Shotwell (20 Mehefin 2010). "Bandcamp.com changes business model". Alt Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2011. Cyrchwyd 27 Hydref 2010.
- ↑ Bandcamp - In which formats can I download my purchases, https://get.bandcamp.help/hc/en-us/articles/360009319033-In-which-formats-can-I-download-my-purchases-, adalwyd 19 Chwefror 2019
- ↑ Millman, Ethan (14 Ionawr 2021). "Bandcamp Will Make Vinyl Records for You". Rolling Stone. Cyrchwyd 21 Hydref 2025.
- ↑ "Recordiau Sbensh". Cyrchwyd 17 Awst 2026.
- ↑ "Welsh Language". Bandcamp. Cyrchwyd 17 Awst 2026.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Bandcamp
- The Protest and Passion of Welsh-Language DIY erthygl gan Anna Mills, 2023
- Rhestr artistiaid Cymraeg ar Bandcamp