Neidio i'r cynnwys

Bacchai

Oddi ar Wicipedia
Bacchai
Enghraifft o:gwaith dramatig Edit this on Wikidata
AwdurEwripides Edit this on Wikidata
IaithHen Roeg Edit this on Wikidata
Genretrasiedi Roegaidd Edit this on Wikidata
CymeriadauDionysos, Penthews, Agawe, maenad, Teiresias, Cadmos Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTheatr Dionysos Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af405 CC Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithThebai Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trasiedi Roegaidd hynafol gan Ewripides yw Bacchai neu Y Bacchai (Hen Roeg: Βάκχαι /ˈbæk/, Bakkhai / Y Bacchantes /ˈbækənts, bəˈkænts, -ˈkɑːnts/). Cyfansoddwyd y ddrama yn ystod ei flynyddoedd olaf ym Macedonia, yn llys Archelaus I o Macedonia. Llwyfannwyd y drasiedi am y tro cyntaf ar ôl ei farwolaeth yn Theatr Dionysos yn 405 CC fel rhan o detraleg oedd hefyd yn cynnwys Iphigeneia yn Aulis ac Alcmaeon yng Nghorinth, a tybir bod mab neu nai Ewripides wedi'i gyfarwyddo. [1] Enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth gŵyl Dinas Dionysia.

Gareth Miles fu'n gyfrifol am ei "chyfaddasu" i'r Gymraeg ym 1991 ar gyfer Dalier Sylw ac am fathu'r enw Bacchai.[2] Cyhoeddwyd ei gyfaddasiad gan Dalier Sylw a CAA yn yr un flwyddyn.[2] Seiliwyd y cyfaddasiad ar gyfieithiad Ffrangeg Henri Grégoire a Jules Meunier, o'r ddrama wreiddiol gan Ewripides, wedi'i greu gan ddefnyddio ieithweddau Cymraeg hynafol.

Mae'r drasiedi wedi'i ganoli ar fyth Groegaidd y Brenin Penthews o Thebai a'i fam Agawe, a gafodd eu cosbi gan y duw Dionysos (sy'n gefnder i Penthews) am wrthod ei gwlt. Mae'r ddrama'n agor gyda Dionysos yn cyhoeddi ei fod wedi cyrraedd Thebai gyda'i gefnogwyr i ddial am yr enllib, a ailadroddwyd gan ei fodrybedd, nad mab Zews mohono. Wedi'i guddio fel dyn sanctaidd o dramor, mae'r duw yn bwriadu cyflwyno defodau Dionysaidd i'r ddinas, ond mae'r Thebiaid yn gwrthod ei dduwdod ac mae'r brenin Penthews yn gorchymyn ei atal a'i arestio.

Gyrra Dionysos Penthews yn wallgof, gan ei ddenu i'r mynyddoedd. Mae'r ddrama'n gorffen gyda menywod Thebai, wedi'u cyflyru gan gynddaredd orgiastig Dionysos, yn rhwygo Penthews yn ddarnau, tra bod ei fam Agawe yn cludo ei ben ar bolyn i'w thad Cadmos.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriadau Ewripides Cymeriadau Miles Disgrifiad
Dionysios duw'r gwin
Penthews arglwydd Thebai
Cadmos sylfaenydd Dinas Thebai a thaid Penthews
Teiresias proffwyd dall, gweledydd
Agawe mam Penthews a merch Cadmos
Y Negesydd Cyntaf
Yr Ail Negesydd
Y Bacchai

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Clawr Bacchai cyfaddasiad Gareth Miles

Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Dalier Sylw ym 1991. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Ceri Sherlock.; cynllunydd Eryl Ellis; cast:[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rehm (1992, 23).
  2. 2.0 2.1 Miles, Gareth (1991). Bacchai. Caerdydd: Dalier Sylw / CAA.
  3. "Y Bacchai - archif sioeau Dalier Sylw". www.users.globalnet.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.