Neidio i'r cynnwys

BRICS

Oddi ar Wicipedia
BRICS
Enghraifft o:clymblaid, grŵp daearwleidyddol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Mehefin 2009 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBrasil, Rwsia, India, Gweriniaeth Pobl Tsieina, De Affrica, Algeria, Bahrain, Bangladesh, Belarws, Yr Aifft, Ethiopia, Indonesia, Iran, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Indonesia Edit this on Wikidata
Isgwmni/auY Banc Datblygu Newydd Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0gyrf98 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae BRICS (neu BRICS+) yn sefydliad rhynglywodraethol a oedd (yn 2026) yn cynnwys deg gwlad (2026): Brasil, Tsieina, De Affrica, yr Aifft, Ethiopia, India, Indonesia, Iran, Rwsia, a'r Emiradau Arabaidd Unedig.[1] Fe'i disgrifiwyd yn wreiddiol gan weinidog tramor Rwsia, Yevgeny Primakov, ym 1998, a gellir ei olrhain i fforymau anffurfiol a grwpiau deialog fel RIC (Rwsia, India, a Tsieina) ac IBSA (India, Brasil, a De Affrica).[2]

Cynhaliwyd uwchgynhadledd gynta'r bloc yn 2009 ac roedd yn cynnwys Brasil, Rwsia, India, a Tsieina;[3] mabwysiadasant yr acronym BRIC a ffurfio grŵp diplomyddol anffurfiol lle gallai eu llywodraethau gyfarfod yn flynyddol mewn uwchgynhadleddau ffurfiol a chydlynu polisïau amlochrog ar y cyd.[4][5] Ymunodd De Affrica â'r sefydliad ym mis Medi 2010, a ailenwyd wedyn yn BRICS, a mynychodd y drydedd uwchgynhadledd yn 2011 fel aelod llawn.[6][7] Mynychodd Iran, yr Aifft, Ethiopia, a'r Emiradau Arabaidd Unedig eu huwchgynhadledd gyntaf fel aelod-wladwriaethau yn 2024 yn Rwsia.[8] Ymunodd Indonesia yn swyddogol ddechrau 2025, gan ddod yn aelod cyntaf De-ddwyrain Asia.[9][10] Defnyddiwyd yr acronym BRICS+ neu BRICS Plus yn anffurfiol i adlewyrchu aelodaeth newydd ers 2024.[8][11][12]

Oherwydd COVID-19, cynhaliwyd uwchgynhadledd BRICS 2020 yn rhithwir yn St. Petersburg, Rwsia, a thrafodwyd sut i ymdrin â phandemig COVID-19 a sut i drwsio'r system amlochrog trwy ddiwygiadau.[13] Yn ystod 13eg uwchgynhadledd BRICS, yn 2021, galwodd Prif Weinidog India Narendra Modi am ymchwiliad tryloyw i COVID-19 o dan Sefydliad Iechyd y Byd gyda chydweithrediad llawn "pob gwlad", a galwodd arweinydd Tsieina, Xi Jinping ar wledydd BRICS i troi'r pandemig yn fater gwleidyddol.[14]

     Aelod-wladwriaethau o BRICS      Partneriaid BRICS      Ymgeiswyr BRICS

Pryder

[golygu | golygu cod]

Yn 16eg Uwchgynhadledd BRICS yn Kazan’ yn Hydref 2024, pwysleisiodd 'Datganiad Kazan' ymlyniad y grŵp i Siarter y Cenhedloedd Unedig a chefnogodd ymdrechion diplomyddol i ddatrys y gwrthdaro yn yr Wcrain yn heddychlon. Mynegodd bryder dwfn ynghylch hil-laddiad pobl Palestina, a arweiniodd at ladd tua 65,000 o sifiliaid, a goresgyniad Israel o'r Lan Orllewinol]]. Nododd y datganiad hefyd bryder ynghylch y sefyllfa yn Ne Libanus a galwodd ar Israel i roi'r gorau i'r elyniaeth ar unwaith. Yn ogystal, tynnodd sylw at effaith andwyol sancsiynau unochrog ar yr economi fyd-eang.[15]

Y Banc Datblygu Newydd

[golygu | golygu cod]
Logo Banc Datblygu Newydd

Ym Mehefin 2012, addawodd gwledydd BRICS $75 biliwn i hybu pŵer benthyca'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Fodd bynnag, roedd y benthyciad arfaethedig yn amodol ar ddiwygio dull pleidleisio'r IMF.[16] Ym Mawrth 2013, yn ystod pumed uwchgynhadledd BRICS yn Durban, cytunodd yr aelod-wledydd i greu sefydliad ariannol byd-eang i gydweithio â'r IMF a Banc y Byd, a oedd dan ddylanwad y gorllewin.[17] Erbyn 2014 roedd cronfa o $200 biliwn wedi'i sefydlu.[18]

Dywedodd y Banc Datblygu Newydd yn 2020 eu bod yn bwriadu rhoi $15 biliwn i aelod-wladwriaethau i helpu eu heconomïau sy'n ei chael hi'n anodd. Tsieina sy'n dominyddu'r grŵp, a hi hefyd sydd â'r gyfran fwyaf o GDP y grŵp, sef tua 70% o gyfanswm y sefydliad.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "BRICS Brasil - English". brics.br.
  2. Patnaik, Ajay K. (2023). "3. Evolution of BRICS. History and Politics". In Raman, G. Venkat; Sundriyal, Meenakshi; Mehra, Meeta Keswani; Kumar, Rajan (gol.). Locating BRICS in the Global Order. Perspectives from the Global South. Taylor & Francis. ISBN 978-1-000-73876-6.
  3. Cooper, Andrew Fenton (2016). The BRICS: A Very Short Introduction (yn Saesneg). Oxford University Press. ISBN 978-0-19-872339-4.
  4. Curtis, John (11 Tachwedd 2024). "The BRICS group: Overview and recent expansion" (PDF). House of Commons Library, UK Parliament.
  5. Ndzendze, Bhaso (24 Awst 2023). "Brics expansion: six more nations are set to join – what they're buying into". The Conversation (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Ionawr 2025.
  6. "What is BRICS, which countries want to join and why?". Reuters. 22 Awst 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 8 Chwefror 2024.
  7. Stuenkel, Oliver (2020). The BRICS and the Future of Global Order (arg. 2). Lexington Books. t. 1. ISBN 978-0-7391-9321-1.
  8. 8.0 8.1 "Expansion of BRICS: A quest for greater global influence?" (PDF). Think Tank, European Parliament. 15 Mawrth 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2024.
  9. "Indonesia joins BRICS bloc as full member, Brazil says". Reuters. 7 Ionawr 2025. Cyrchwyd 7 Ionawr 2025.
  10. "Indonesia joins BRICS group of emerging economies" (yn Saesneg). Al Jazeera. 7 Ionawr 2025. Cyrchwyd 7 Ionawr 2025.
  11. 11.0 11.1 Patrick, Stewart (9 Hydref 2024). "BRICS Expansion, the G20, and the Future of World Order". Carnegie Endowment for International Peace (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2024.
  12. Tran, Hung (1 Tachwedd 2024). [https://www.atlanticcouncil.org/blogs/econog raphics/the-underestimated-implications-of-the-brics-summit-in-russia/ "The underestimated implications of the BRICS Summit in Russia"] Check |url= value (help). Atlantic Council (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Chwefror 2025. line feed character in |url= at position 45 (help)
  13. "BRICS To Allocate $15 Billion For Rebuilding Economies Hit By COVID-19". NDTV. 29 Ebrill 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2021. Cyrchwyd 20 Hydref 2020.
  14. Haidar, Suhasini; Krishnan, Ananth (15 Medi 2021). "India, China avoided open clash over COVID-19 origins". The Hindu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Medi 2021. Cyrchwyd 16 Medi 2021.
  15. "BRICS summit: Key takeaways from the Kazan declaration". Reuters (yn Saesneg). 24 Hydref 2024. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2025.
  16. Bryanski, Gleb (21 Mehefin 2012). "Russia says BRICS eye joint anti-crisis fund". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mai 2013. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2012.
  17. Smith, David (28 Mawrth 2013). "Brics eye infrastructure funding through new development bank". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Hydref 2013. Cyrchwyd 29 Mawrth 2013.
  18. Eckert, Paul (19 Ebrill 2013). Ricci, Andrea (gol.). "India sees BRICS development bank agreed by 2014 summit". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2013. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2013.