BMW i3

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
BMW I3
2018 BMW i3 facelift (1).jpg
2014 BMW i3
Trosolwg
Gwneuthurwr BMW
Enw arall BMW Mega City Vehicle
Cynhyrchu 2013–presennol
Sawl blwyddyn 2014–presennol
Gosod Leipzig, yr Almaen
Cynllunydd Richard Kim[1][2]
Corff a siasi
Dosbarth Car-i'r-ddinas
Math o gorff 5-drws hatchback
Trefn Periant tua'r cefn, gyriant olwynion cefn
Pwer
Peiriant 25 kW 647 cc, generadur dwy silindr (opsiynol) gyda cynhwyedd tanc-llawn o
9 L (2.4 US galwyn) yn Ewrop
7.2 L (1.9 US galwyn) in the U.S. yn UDA[3][4]
Modur trydan 125 kW (168 bhp)[5]
Trosglwyddiad Un cyflymder gyda chymhareb sefydlog (Single speed with fixed ratio)
Batri 22 (18.8 defnyddiol) kWh batri lithiwm-ion[6]
Dim ond ar drydan Cerbyd gyriant batri trydan
130 km (81 mi) Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd (UDA)[7]
[convert: precision too large] NEDC Range extender
116 km (72 mi) (EPA) Cyfanswm: 240 km (150 mi) (EPA)[8]
Gorsaf bweru 7.4 kW
Maint
Pellter rhwng echelydd (Wheelbase) 2,570 mm (101 in)
Hyd 3,999 mm (157.4 in)
Lled 1,775 mm (69.9 in)
Uchder 1,578 mm (62.1 in)
Pwysau pafin 1,195 kg (2,635 lb)

Car trydan 5-drws ydy'r BMW i3, a elwid yn wreiddiol yn Mega City Vehicle (MCV). Fe'i gwneir gan y cwmni Almaenig BMW ac mae'n rhan o'u "Project i".[9][10][11] Dyma fodel cyntaf BMW heb allyriant sydd wedi'i fas-gynhyrchu a BMW yw'r cyntaf i greu car wedi'i wneud o bolymer a atgyfnerthwyd gan garbon-ffibr, sy'n gwella effeithiolrwydd a'r defnydd o ynni.

Lleolir y modur, sy'n gyrru'r car, rhwng yr olwynion ôl.

Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y BMW i3 9 marc allan o 10: un o'r ychydig geir i dderbyn marciau mor uchel.[12] Nodwyd fod y car hwn yn torri tir newydd: "the most revolutionary mainstreem car yet". Erbyn Haf 2016 roedd BMW yn cynnig range extender i'w alluogi i fynd ymhellach ar lond batri o drydan, am gost o £34,130 yn hytrach na £30,980 am gar heb yr estyniad hwn.

Gall Y BMW i3 gyrraedd pellter o rhwng 130 – 160 km (80 - 100 mi) dan amgylchiadau a nodir yng Nghylch Gyrru Newydd Ewrop (New European Driving Cycle) (NEDC), a hyd at 200 km (120 mi) ar ei fwyaf effeithiol. Dan amgylchiadau a nodir gan Asiantaeth yr Amgylched (UDA), y pellter swyddogol ydy 130 km (81 mi) ac economi tanwydd o 124 milltir y galwyn cywerth —MPGe— (1.90 L/100 km; 149 mpg imp). Cynigia BMW fodel sydd a phellter o 260 – 290 km (160 - 180 mi), sef y i3 REx, gyda pheiriant petroliwm 647 cc dwy silindr a thanc tanwydd bychan sy'n cicio i mewn pan fo'r batri bron a gwacáu. Mae'r peiriant hwn yn gweithio fel generadur sy'n cynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r olwynion. Ym Mehefin 2015 dyma'r cerbyd trydan mwyaf effeithiol o ran tanwydd, a gynhyrchwyd yn fyd-eang, a'r i3 REx yw'r car trydan ardystiedig mwyaf effeithiol gyda pheiriannau petroliwm.[7]

Dadorchuddiwyd y car am y tro cyntaf yn Sioe Cerbydau Rhyngwladol yr Almaen yn 2011 a rhowliwyd y car adwerthol i'r cwsmer yng Ngorffennaf 2013. Yn 2015 roedd y pris gwerthu yn US$42,275 cyn nawdd llywodraeth yn yr UDA a'r i3 REx yn US$3,850 ychwanegol. Yng ngwledydd Prydain mae'r car ar werth am £30,680 (US$47,195) cyn nawdd. Hyd at Rhagfyr 2015 gwerthwyd 41,586 o gerbydau ledled y byd, y trydydd gorau, o holl geir trydan-yn-unig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Richard Kim - Exterior Designer BMW i3 i8. YouTube. Cyrchwyd 2013-03-10.
  2. Phil Patton (2011-11-10). "At BMW’s New Electric Subbrand, a Young Designer Makes His Mark". New York Times. http://wheels.blogs.nytimes.com/2011/11/10/at-bmws-new-electric-subbrand-a-young-designer-makes-his-mark/. Adalwyd 2014-02-09.
  3. BMW USA. "The BMW i3 with Range Extender - Features & Specs". BMW USA. Cyrchwyd 2014-05-25.
  4. BMW USA. "The BMW i3 - Features & Specs". BMW USA. Cyrchwyd 2014-05-25.
  5. BMW i. "BMW i3 Technical Data: BMW eDrive". BMW. Cyrchwyd 2015-10-04.
  6. "BMW i3 Technical Data". Cyrchwyd 2014-03-19.
  7. 7.0 7.1 United States Environmental Protection Agency and U.S. Department of Energy (2015-12-04). "Compare Side-by-Side: 2014/2015 BMW i3 BEV & 2014/2015 BMW i3 REx". fueleconomy.gov. Cyrchwyd 2015-12-06.
  8. Antony Ingram (2014-05-21). "2014 BMW i3 REx Window Sticker Revealed, 39 MPG On Gasoline: BREAKING". Green Car Reports. Cyrchwyd 2014-05-25. See details in EPA window sticker
  9. Jack Ewing (2010-07-29). "Will Plug-In BMWs Turn Enthusiasts On?". New York Times. http://www.nytimes.com/2011/07/31/automobiles/will-plug-in-bmws-turn-enthusiasts-on.html?pagewanted=1&_r=1. Adalwyd 2010-10-02.
  10. Jay Cole (2013-02-26). "First BMW i3 Electric Car Test Ride, 2.3 Gallon Range Extender Option To Cost About $4,000". Inside EVs. Cyrchwyd 2013-07-05.
  11. Tom Murphy (2010-05-19). "Mini E Only Beginning of BMW EV Strategy". Wards Auto. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2010. Cyrchwyd 2010-06-13.
  12. Gweler Top Gear: New Car Buyers Gide; tud. 275.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: