Awdl i Lawenydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Schiller an die freude manuskript 2.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolode Edit this on Wikidata
AwdurFriedrich Schiller Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1786 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1785 Edit this on Wikidata
Genreode Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pryddest a gyfansoddwyd gan y bardd a dramodydd Almaenig Friedrich Schiller ym 1785 yw'r "Awdl i Lawenydd" (Almaeneg: An die Freude). Cyhoeddwyd yn gyntaf yng nghylchgrawn Thalia ym 1786. Mae'r gerdd gyfan yn cynnwys naw pennill o wyth llinell yr un, a phob pennill wedi ei ddilyn gan gytgan o bedair llinell yr un.

Gosodwyd y pum pennill a phum cytgan gyntaf i gerddoriaeth gan Ludwig van Beethoven yn ei 9fed Symffoni, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Fienna ym 1824. Caiff y symffoni hon ei hystyried yn un o'r cyfansoddiadau gwychaf yn hanes cerddoriaeth.

Troswyd y penillion a ddefnyddiwyd yn y 9fed Symffoni o'r Almaeneg i'r Gymraeg gan J. Vernon Lewis, Aberhonddu, a chyhoeddwyd ei gyfieithiad yn Y Llenor ym 1949.[1]

Geiriau (penillion y 9fed Symffoni)[golygu | golygu cod y dudalen]

An die Freude

Freude, schöner Götterfunken,
Tochter aus Elisium,
Wir betreten feuertrunken,
Himmlische, dein Heiligthum.
Deine Zauber binden wieder,
was der Mode Schwerd getheilt;
Bettler werden Fürstenbrüder,
wo dein sanfter Flügel weilt.

Chor.

Seid umschlungen, Millionen!
Diesen Kuß der ganzen Welt!
Brüder – überm Sternenzelt
muß ein lieber Vater wohnen.

Wem der große Wurf gelungen,
eines Freundes Freund zu seyn;
wer ein holdes Weib errungen,
mische seinen Jubel ein!
Ja – wer auch nur eine Seele
sein nennt auf dem Erdenrund!
Und wer's nie gekonnt, der stehle
weinend sich aus diesem Bund!

Chor.

Was den großen Ring bewohnet
huldige der Simpathie!
Zu den Sternen leitet sie,
Wo der Unbekannte tronet.

Freude trinken alle Wesen
an den Brüsten der Natur,
Alle Guten, alle Bösen
folgen ihrer Rosenspur.
Küße gab sie uns und Reben,
einen Freund, geprüft im Tod.
Wollust ward dem Wurm gegeben,
und der Cherub steht vor Gott.

Chor.

Ihr stürzt nieder, Millionen?
Ahndest du den Schöpfer, Welt?
Such' ihn überm Sternenzelt,
über Sternen muß er wohnen.

Freude heißt die starke Feder
in der ewigen Natur.
Freude, Freude treibt die Räder
in der großen Weltenuhr.
Blumen lockt sie aus den Keimen,
Sonnen aus dem Firmament,
Sphären rollt sie in den Räumen,
die des Sehers Rohr nicht kennt!

Chor.

Froh, wie seine Sonnen fliegen,
durch des Himmels prächtgen Plan,
Laufet Brüder eure Bahn,
freudig wie ein Held zum siegen.

Aus der Wahrheit Feuerspiegel
lächelt sie den Forscher an.
Zu der Tugend steilem Hügel
leitet sie des Dulders Bahn.
Auf des Glaubens Sonnenberge
sieht man ihre Fahnen wehn,
Durch den Riß gesprengter Särge
sie im Chor der Engel stehn.

Chor.

Duldet mutig, Millionen!
Duldet für die beßre Welt!
Droben überm Sternenzelt
wird ein großer Gott belohnen.

Awdl i Lawenydd[1]

Di, Lawenydd, nef wreichionen,
Rhiain deg Paradwys fry.
Deuwn gyda hoen gorawen,
I'th gynteddoedd nefol di ;
Pan fo dulliau'r byd yn ysgar,
Clymu eilwaith mae dy swyn ;
Brodyr fydd holl deulu'r ddaear,
Dan dy adain dyner fwyn.

Côr

Cydgofleidiwch, chwi filyniau !
Deyrnas cariad is y rhod ;
Frodyr—tirion Dad sy'n bod
Draw tu hwnt i'r sêr-droellau.

Ef o'i buredd gafodd brofi
Ennill ffrind a fo'n parhau,
Neu a garodd lân ddyweddi,
Unent oll i lawenhau !
A phe onid un a geffir
Ganddo'n gyfaill iddo'n dynn ;
Nac erioed 'run enaid cywir,
Wyled golli'r clymau hyn.

Côr

Holl dylwythau pob preswylfod,
Cydymdeimlo fyddo'ch trefn !
At y sêr fe'ch dwg drachefn,
Lle saif thrôn y Diadnabod.

Pawb a dderbyn o'r Llawenydd
Ddyry natur yn ei bryd ;
Da a'r drwg, canlynant beunydd
Hynt eu gwridog ffyrdd ynghyd.
Hi a roes y peraidd winwydd,
Hefyd ffrind hyd derfyn byw ;
Rhoes i'r pryf ei nwyfiant dedwydd,
Cerub fan yn ymyl Duw.

Côr

Ymostyngwch, chwi filiynau !
Fyd ! a fynni'r Crëwr Nêr ?
Cais Efo tu draw i'r sêr !
Byw y mae uwch sêr-droellau.

Gyr Llawenydd yr egnïon
Trwy anghyffin natur oll,
A Llawenydd dry'r olwynion
Trwy'r cyfanfyd yn ddi-goll.
Huda'r blodau cladd o'u hadau,
Heuliau o'r ffurfafen frith,
Try holl gylchau'r eangderau
A'r nis cenfydd serydd byth.

Côr

Llon mal heuliau'n troi i'w gorchest
Trwy ororau'r lasne faith,
Rhedwch frodyr yrfa'ch taith,
Llawen, megis cawr i'w goncwest.

Syth o danbaid ddrych gwirionedd
Ar a chwilio gwenu bydd ;
Hyd at serth lechweddau rhinwedd
Arwain hi yn dioddef sydd.
Ar haul-fryniau ffydd yn olau
Chwifio mae ei baner hi,
A chan ddryllio bolltau'r beddau
Saif yng nghôr yr engyl fry.

Côr

Ymwrolwch, chwi filiynau !
Dioddef dros gael byd sydd well !
Fry goruwch y sêr ymhell
Trig yr uchel Dduw a'i wobrau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 J. Vernon Lewis, "Awdl i Lawenydd", Y Llenor 28 (1949), tt. 5–7. Adalwyd drwy gyfrwng Cylchgronau Cymru Ar-lein ar 25 Mehefin 2021.