Avdotya Panaeva

Oddi ar Wicipedia
Avdotya Panaeva
FfugenwN. Stanickij Edit this on Wikidata
Ganwyd31 Gorffennaf 1820 (yn y Calendr Iwliaidd), 1819 Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 1893 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Academi Celfyddydau Theatr y Wladwriaeth, Saint Petersburg Edit this on Wikidata
Galwedigaethperchennog salon, ysgrifennwr, golygydd Edit this on Wikidata
TadYakov Bryanskiy Edit this on Wikidata
MamQ110387293 Edit this on Wikidata
PartnerNikolay Nekrasov Edit this on Wikidata
LlinachQ4343837 Edit this on Wikidata

Awdures o Rwsia oedd Avdotya Yakovlevna Panaeva (Rwsieg: Авдо́тья Я́ковлевна Пана́ева; 31 Gorffennaf 1820 - 30 Mawrth 1893) a oedd hefyd yn berchennog salon llenyddol. Y stori fer a'r nofel oedd ei hoff genre. Cyhoeddodd lawer o'i gwaith dan y ffugenw V. Stanitsky.[1]

Fe'i ganed yn St Petersburg ac yno hefyd y bu farw; fe'i claddwyd ym mynwent 'Literatorskie mostki'. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Academi Celfyddydau Theatr y Wladwriaeth, Saint Petersburg.[2][3][4][5]

Magwraeth a phriodi[golygu | golygu cod]

Ganwyd Avdotya Bryanskaya i deulu artistig. Roedd ei thad Yakov Bryansky yn actor trasig yn yr ysgol glasurol o actio, tra canodd ei mam A. M. Stepanova opera ac ymddangosodd mewn dramâu. Astudiodd Avdotya yn Academi Celfyddydau Theatr St Petersburg ond ni sefydlodd yrfa yn y theatr erioed.[6]

Yn 1837 priododd yr awdur Ivan Panaev ac ymunodd â chylch agos ei ffrindiau llenyddol. Ond ni pharodd y briodas yn hir iawn, ac yn 1846 roedd yn byw gyda Nikolay Nekrasov a threuliodd y 15 mlynedd nesaf gydag ef.[7] [8]

Y llenor[golygu | golygu cod]

Cydweithiodd â'r ddau awdur yma a chyhoeddodd lawer o nofelau a straeon ei hun. Cyhoeddodd hi a Nekrasov ddwy nofel gyda'i gilydd: Tair Rhan o'r Byd (1848–49) a'r Llyn Marw (1851). Mae ei ffuglen yn delio â phroblemau cymdeithasol yr oesoedd, ac yn enwedig â hawliau menywod, fel yn ei nofel Lle'r Ferch (1862).[9]

Yn 1845 darllenodd Fyodor Dostoyevsky ei nofel gyntaf Y Werin Dlawd i grŵp llenyddol a drefnwyd gan Panaeva ac Ivan Panaev. Daeth Dostoyevsky yn ymwelydd cyson â'r salon llenyddol pwysig a drefnwyd gan Panaeva. Ond rhoddodd Dostoyevsky y gorau i fynychu'r salon ar ôl ymladd ag Ivan Turgenev, cyd-ymwelydd. Roedd ymwelwyr eraill y salon yn cynnwys Leo Tolstoy, Ivan Goncharov, Alexander Herzen, Vissarion Belinsky a Nikolai Chernyshevsky.

Dywedir nad yw ei hunangofiant yn ffeithiol gywir, gan ei bod yn flodeuog yn ei disgrifiadau o'r bobl y sonia amdanynt. Ond mae o werth hanesyddol ar y gymdeithas o lenorion Rwsiaidd yn yr adeg honno, sef y 1840au a'r 1850au.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. An Encyclopedia of Continental Women Writers, Volume 1, Taylor & Francis, 1991.
  2. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "Avdot'ia Iakovlevna Panáeva". "Avdot'â Âkovlevna Panaeva".
  5. Man geni: А. М. Прохоров, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  6. Баландин, А.И. (1990). "Панаева А. Я.: Биобиблиографическая справка". Русские писатели. Биобиблиографический словарь. Том 2. М--Я. Под редакцией П. А. Николаева. М., "Просвещение". Cyrchwyd 2012-03-01.
  7. "А.Я.Панаева". www.biografija.ru. Cyrchwyd 2012-03-01.
  8. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  9. Handbook of Russian Literature, Victor Terras, Yale University Press 1990.