Aung San Suu Kyi
Aung San Suu Kyi | |
---|---|
Llais | Aung San Suu Kyi BBC Radio4 Desert Island Discs 27 January 2013 b01q7gvl.flac |
Ganwyd | 19 Mehefin 1945 Yangon |
Man preswyl | Llyn Inya, Delhi Newydd, Rhydychen, Dinas Efrog Newydd, Llundain, Shimla, Myanmar, Yangon, 54 University Avenue |
Dinasyddiaeth | Myanmar |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol |
Swydd | cadeirydd, Minister of the President's Office, Minister of Foreign Affairs (Myanmar), Minister of Education (Myanmar), Minister of Electric Power (Myanmar), Cwnsler Gwladriaeth Myanmar, Member of the House of Representatives of Burma |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Freedom from Fear |
Plaid Wleidyddol | Cynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth |
Tad | Aung San |
Mam | Khin Kyi |
Priod | Michael Aris |
Plant | Alexander Aris, Kim Aris |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Sakharov, Gwobr Goffa Thorolf Rafto, International Simón Bolívar Prize, Wallenberg Medal, Medal Aur y Gyngres, Václav Havel Prize, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Olof Palme, Gwobr UNESCO-Madanjeet Singh, Four Freedoms Award – Freedom from Fear, Chatham House Prize, Medal Giuseppe Motta, Gwangju Prize for Human Rights, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, honorary Canadian citizenship, Silver Medal of the Chairman of the Senate, Dyngarwr y Flwyddyn, honorary doctor of the University of Hong Kong, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr Rhyddid, Honorary Companion of the Order of Australia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Urdd Awstralia, Global Citizen Awards |
llofnod | |
Awdures o Myanmar yw Aung San Suu Kyi (Byrmaneg: အောင်ဆန်းစုကြည်; ganwyd 19 Mehefin 1945) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, awdur, gweithredydd dros hawliau dynol ac enillydd Gwobr Nobel (1991).
Hi yw arweinydd y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth a'r Cwnsler Gwladol cyntaf, swydd debyg i brif weinidog. Hi hefyd yw'r fenyw gyntaf i wasanaethu fel Gweinidog dros Faterion Tramor, ar gyfer Swyddfa'r Llywydd, ar gyfer Pwer Trydan ac Ynni, ac ar gyfer Addysg. Rhwng 2012 a 2016 roedd yn AS dros Dreflan Kawhmu i Dŷ'r Cynrychiolwyr.
Hi oedd merch ieuengaf Aung San, "Tad y Genedl" (Myanmar), a Khin Kyi, ac fe'i ganed mewn pentref bychan o'r enw Hmway Saung ger Rangoon, (Yangon heddiw), yn yr hyn a elwid yn "British Burma". Ochrodd ei thad, Aung San, gyda'r Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlodd fyddin Burma a thrafododd annibyniaeth Burma oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1947; cafodd ei lofruddio gan ei wrthwynebwyr yn yr un flwyddyn.
Mynychodd Aung San Suu Kyi Goleg yr Arglwyddes Shri Ram i Ferched, Ysgol Uwchradd Addysg Elfennol, Rhif 1, Coleg St Hugh. Ar ôl graddio o Brifysgol Delhi yn 1964 a Phrifysgol Rhydychen yn 1968, bu'n gweithio yn y Cenhedloedd Unedig am dair blynedd. Priododd Michael Aris ym 1972, a chawsant ddau o blant: Alexander Aris a Kim Aris.[1][2][3][4][5][6]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Freedom from Fear.
Y gwleidydd
[golygu | golygu cod]Roedd gwleidyddiaeth yn ei gwaed ers yn ifanc iawn, a daeth Aung San Suu Kyi i amlygrwydd yn Chwyldro 1988; fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth (NLD), plaid a oedd newydd gael ei sefydlu ganddi.
Yn etholiadau 1990, enillodd ei phlaid, yr NLD, 81% o'r seddi yn y Senedd, ond cafodd y canlyniadau eu diddymu, a gwrthododdd y fyddin drosglwyddo pwer y wlad i'w phlaid, gan arwain at brotestiadau rhyngwladol. Roedd hi eisoes wedi cael ei chadw dan arestiad-tŷ cyn yr etholiadau a chadwyd hi felly am bron i 15 o'r 21 mlynedd rhwng 1989 a 2010, gan ddod yn un o garcharorion gwleidyddol amlycaf y byd.
Boicotiodd ei phlaid etholiadau 2010, gan arwain at fuddugoliaeth bendant i 'Blaid Undod a Datblygu'r Undeb' a oedd yn cael ei gefnogi gan y fyddin. Etholwyd Aung San Suu Kyi yn AS dros Pyithu Hluttaw tra enillodd ei phlaid 43 o'r 45 sedd wag yn is-etholiadau 2012. Yn etholiadau 2015, enillodd ei phlaid fuddugoliaeth lawn, gan gymryd 86% o'r seddi yng Nghynulliad yr Undeb. Gwaharddwyd hi rhag bod yn Llywydd y wlad, gan bod ei gŵr a'i phlant yn ddinasyddion tramor, ond penodwyd hi'n Gwnsler Gwladol, swydd debyg i Brif Weinidog. [7][8][9][10]
Mae anrhydeddau Aung San Suu Kyi yn cynnwys y Wobr Heddwch Nobel, a enillodd ym 1991. Enwebodd Time Magazine hi fel un o "Blant Gandhi" a'i etifedd ysbrydol sy'n credu mewn dulliau di-drais.
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Ers esgyn i swydd Cwnsler y Wladwriaeth, mae Aung San Suu Kyi wedi cael ei beirniadu'n hallt gan nifer o wledydd, sefydliadau a phobl adnabyddus am wneud dim i atal erledigaeth pobl Rohingya yn Nhalaith Rakhine, a gwrthod derbyn bod milwyr Myanmar wedi cyflawni sawl cyflafan.[11][12][13][14][15]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o IDEA Rhyngwladol, ARTICLE 19, The Elders, Clwb Madid, FRCSEd am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heddwch Nobel (1991), Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Sakharov, Gwobr Goffa Thorolf Rafto (1990), International Simón Bolívar Prize (1992), Wallenberg Medal (2011), Medal Aur y Gyngres (2017), Václav Havel Prize (2012), Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Olof Palme (2005), Gwobr UNESCO-Madanjeet Singh (2002), Four Freedoms Award – Freedom from Fear, Chatham House Prize (2011), Medal Giuseppe Motta (2013), Gwangju Prize for Human Rights, Gwobr Llysgennad Cydwybod (2009), Gwobr Ryngwladol Catalwnia (2008), honorary Canadian citizenship (2007), Silver Medal of the Chairman of the Senate (2013), Dyngarwr y Flwyddyn (2016), honorary doctor of the University of Hong Kong, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol (1993), Gwobr Rhyddid (1995), Honorary Companion of the Order of Australia (1996), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel (1994), Urdd Awstralia, Global Citizen Awards (2012)[16][17][18][19][20][21][22][23][24][25] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/12062283/aung_san_suu_kyi/. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Ebrill 2016.
- ↑ Dyddiad geni: "After Victory in Myanmar, Aung San Suu Kyi Quietly Shapes a Transition". The New York Times (yn Saesneg). 21 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.June 19, 1945: Aung San Suu Kyi is born to Gen. Aung San, the leader of the military in Burma, now known as Myanmar, and Khin Kyi, a nurse.
"Aung San Suu Kyi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Aung San Suu Kyi". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Aung San Suu Kyi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Aung San Suu Kyi ". "Aung San Suu Kyi". "Aung San Suu Kyi". "Aung San Suu Kyi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. - ↑ Man geni: "Aung San Suu Kyi - Facts" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
Born: 19 June 1945, Rangoon (now Yangon), Burma (now Myanmar)
- ↑ Crefydd: "Aung San Suu Kyi's fight" (yn Saesneg). Deutsche Welle. 13 Mehefin 2012. Cyrchwyd 13 Mawrth 2024.
- ↑ Tad: "Profile: Aung San Suu Kyi" (yn Saesneg). 13 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
Aung San Suu Kyi is the daughter of Myanmar's independence hero, General Aung San.
- ↑ Mam: "Profile: Aung San Suu Kyi" (yn Saesneg). 13 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
In 1960 [Aung San Suu Kyi] went to India with her mother Daw Khin Kyi […].
- ↑ Alma mater: "Aung San Suu Kyi - Biographical" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016.1960-64: Suu Kyi at high school and Lady Shri Ram College in New Delhi.
"Aung San Suu Kyi - Biographical" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016.1964-67: Oxford University, B.A. in philosophy, politics and economics at St. Hugh's College (elected Honorary Fellow, 1990).
"Aung San Suu Kyi - Biographical" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016.1987: […] Suu Kyi enrolls at London School of Oriental and African Studies to work on advanced degree.
- ↑ Swydd: "Myanmar to Create New Post for Aung San Suu Kyi, Cementing Her Power". The New York Times (yn Saesneg). 31 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.Along with the four cabinet positions she was sworn into on Wednesday, […] the array of titles will officially make her the most powerful person in the government. […] In addition to her post as minister of the president’s office, she was sworn in as minister of foreign affairs, education, and electric power and energy.
"Myanmar to Create New Post for Aung San Suu Kyi, Cementing Her Power". The New York Times (yn Saesneg). 31 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.Along with the four cabinet positions she was sworn into on Wednesday, […] the array of titles will officially make her the most powerful person in the government. […] In addition to her post as minister of the president’s office, she was sworn in as minister of foreign affairs, education, and electric power and energy.
"Myanmar to Create New Post for Aung San Suu Kyi, Cementing Her Power". The New York Times (yn Saesneg). 31 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.Along with the four cabinet positions she was sworn into on Wednesday, […] the array of titles will officially make her the most powerful person in the government. […] In addition to her post as minister of the president’s office, she was sworn in as minister of foreign affairs, education, and electric power and energy.
"Myanmar to Create New Post for Aung San Suu Kyi, Cementing Her Power". The New York Times (yn Saesneg). 31 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.Along with the four cabinet positions she was sworn into on Wednesday, […] the array of titles will officially make her the most powerful person in the government. […] In addition to her post as minister of the president’s office, she was sworn in as minister of foreign affairs, education, and electric power and energy.
- ↑ Aelodaeth: "Ms Aung San Suu Kyi" (yn Saesneg). IDEA Rhyngwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016.Title: Honorary Board Member of International IDEA
- ↑ Anrhydeddau: "Aung San Suu Kyi - Facts" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2016. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/. https://www.dw.com/en/myanmars-aung-san-suu-kyi-suspended-from-rights-prize-community/a-54886567. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2022. "Laureates" (yn Saesneg). UNESCO. 23 Gorffennaf 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016. http://web.gencat.cat/ca/generalitat/premis/pic/. https://www.nytimes.com/2018/10/03/world/asia/aung-san-suu-kyi-canada-citizenship.html. dyddiad cyrchiad: 8 Hydref 2020. http://news.harvard.edu/gazette/story/2016/09/nobel-laureate-aung-san-suu-kyi-honored-at-harvard/. https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/869578. https://cavavub.be/nl/eredoctoraten. https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/. - ↑ Taub, Amanda; Fisher, Max (31 Hydref 2017). "Did the World Get Aung San Suu Kyi Wrong?" – drwy NYTimes.com.
- ↑ Beech, Hannah (25 Medi 2017). "What Happened to Myanmar's Human-Rights Icon?" – drwy www.newyorker.com.
- ↑ "Dispatches - On Demand - All 4". www.channel4.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-15. Cyrchwyd 2019-03-23.
- ↑ "rohingya genocide".[dolen farw]
- ↑ The Guardian, 12 Tachwedd 2018 amnesty betrayal
- ↑ "Aung San Suu Kyi - Facts" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2016.
- ↑ https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/.
- ↑ https://www.dw.com/en/myanmars-aung-san-suu-kyi-suspended-from-rights-prize-community/a-54886567. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2022.
- ↑ "Laureates" (yn Saesneg). UNESCO. 23 Gorffennaf 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar
|archive-url=
requires|archive-date=
(help). Cyrchwyd 10 Ebrill 2016. - ↑ http://web.gencat.cat/ca/generalitat/premis/pic/.
- ↑ https://www.nytimes.com/2018/10/03/world/asia/aung-san-suu-kyi-canada-citizenship.html. dyddiad cyrchiad: 8 Hydref 2020.
- ↑ http://news.harvard.edu/gazette/story/2016/09/nobel-laureate-aung-san-suu-kyi-honored-at-harvard/.
- ↑ https://honours.pmc.gov.au/honours/awards/869578.
- ↑ https://cavavub.be/nl/eredoctoraten.
- ↑ https://www.atlanticcouncil.org/events/flagship-event/global-citizen-awards/previous-gca-recipients/.