Aubrey Richards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aubrey Richards
Ganwyd 6 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Mai 2000 Edit this on Wikidata (79 oed)
Barnet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Actor Edit this on Wikidata
Priod Diana Boddington Edit this on Wikidata

Roedd Aubrey Richards (6 Mehefin 192029 Mai 2000) yn actor a anwyd yng Nghymru ac a ymddangosodd mewn nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu dros gyfnod o 40 mlynedd, yn aml yn portreadu athrawon.

Dechreuodd ei yrfa actio mewn theatr repertori. Roedd ei ffilmiau yn cynnwys The Ipcress File (1965), It! (1967), The Man Who Haunted Himself (1970), Under Milk Wood (1972), Night Endless (1972) a Savage Messiah (1972) fel y maer. Ar y teledu roedd ganddo rôl bwysig fel Samuel Evans yn Carrie's War (1974) a rhannau cylchol yn Emergency-Ward 10, antur Doctor Who "The Tomb of the Cybermen" (1967) fel yr Athro Parry a How Green Was My Valley (1975-76) fel Mr Elias.

Roedd yn briod a Diana Boddington, y rheolwr llwyfan nodedig ac roedd ganddynt ddau o blant, Claudia a David.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Last Days of Dolwyn (1949) - Ellis
  • Time Without Pity (1957) - Prison Gatekeeper
  • The Ipcress File (1965) - Dr. Radcliffe
  • It! (1967) - Prof. Weal
  • The Man Who Haunted Himself (1970) - Research Scientist
  • Under Milk Wood (1972) - Rev. Eli Jenkins
  • Savage Messiah (1972) - Mayor
  • Endless Night (1972) - Dr. George Philpott
  • Twice Under (1989) - (uncredited)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]