Athenaeus

Oddi ar Wicipedia
Athenaeus
Ganwydc. 170 Edit this on Wikidata
Naucratis Edit this on Wikidata
Bu farw223 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, areithydd, bardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDeipnosophistai Edit this on Wikidata

Gramadegydd yn yr oes Helenistaidd oedd Athenaeus (Groeg: Ἀθήναιος ; bl. 200 OC) a ysgrifennodd y symposiwm Deipnosophistai ("Gwledd y Soffyddion").

Ganed yn Naukratis, yr Aifft. Ymgom wedi ei lleoli mewn gloddest aristocrataidd yw Deipnosophistai sydd yn portreadu cylch o ddysgedigion, gan gynnwys hynafgwyr go iawn megis Galen, yn trafod bwyd a phynciau eraill. Rhennir yr hyn sydd yn goroesi o'r gwaith yn 15 llyfr, ac mae'n debyg yr oedd yn hirach ar ei ffurf wreiddiol. Mae'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o weithiau diflanedig, anecdotau am lenorion hynafol, a disgrifiadau diddorol o fywyd y byd Groeg-Rufeinig. Dyfynnir bron 800 o awduron, gan gynnwys telynegwyr, comedïwyr, ac hanesyddion.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Athenaeus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ionawr 2021.