Neidio i'r cynnwys

Atgof (ffilm 1998)

Oddi ar Wicipedia
Atgof
Enghraifft o:ffilm fer Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1998 Edit this on Wikidata
GenreLHDT Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrCeri Sherlock Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Ffilm fer, ddu a gwyn gan Ceri Sherlock yw Atgof a ddarlledwyd ar S4C ym 1998. Mae'r ffilm ddadleuol yn seiliedig ar bryddest enwog Prosser Rhys o'r un enw, ac yn portreadu perthynas gariadus a nwydus ddychmygol rhwng y bardd, â'r llenor Morris T. Williams. Achosodd y ffilm gryn boen i deulu'r diweddar fardd, a gosodwyd clo cyfreithiol ar lythyrau'r bardd at Morris, a gadwyd yn ddiogel fel rhan o gasgliad Kate Roberts [gwraig Morris], yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1] Arwel Gruffydd oedd yn portreadu Prosser Rhys yn y ffilm, a'r actor di-Gymraeg Toby Sawyer yn portreadu Morris. Cafwyd cameo gan Phylip Hughes yn ogystal, oedd yn lleisio beirniadaeth y Wasg, neu "undonedd diflas y farn homoffobig", yn ôl un adolygydd.[2] Yn 2021, dadleuodd Arwel Gruffydd bod y ffilm "mor herfeiddiol yn ei chyfnod [1998], efallai, â cherdd Prosser yn ei chyfnod hithau [1924]. Yn wir, rwy'n cofio i'r ffilm gael ei darlledu ar S4C wedi un ar ddeg y nos (wedi i 'hen wragedd a phlant' fynd i'w gwelyau, efallai!), ac i rai beirniaid teledu feirniadu'n hallt ei hagweddau rhywiol amlwg," eglurodd.[3]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Y llenor Jane Edwards oedd ymysg y cyntaf i ddarllen y llythyrau "caru" rhwng y ddau gyfaill, ac wedyn rhoddwyd y deunydd craidd yn nwylo'r cyfarwyddwr Ceri Sherlock.[1] Bu Edwards yn gweithio ar sgript yn seiliedig ar y llythyrau mor gynnar â 1995, a soniodd am y prosiect mewn cyfweliad gyda Beti George ar BBC Radio Cymru, bryd hynny.[4]

Mewn erthygl ar y wefan Cymru Fyw yn 2021, nododd Arwel Gruffydd: "Pan gefais fy nghastio yn 1998 i chwarae rhan Prosser Rhys [...] roeddwn eisoes wedi bod yn byw bywyd agored fel dyn hoyw ers bron i ddeng mlynedd; ond dyma oedd y tro cyntaf i mi fel actor proffesiynol chwarae rhan cymeriad hoyw, hynny yw, cymeriad lle roedd ei rywioldeb yn cael ei drafod yn agored yn y ddrama (yn wir yn gwbl ganolog iddi, yn yr achos hwn)".[3]

Dangoswyd y ffilm gyntaf yn yr Ŵyl Ffilmiau [Ryngwladol Cymru] yn y Chapter yng Nghaerdydd ym 1998, fel yr olaf o ffilmiau mewn cyfres o'r enw "Queer Shorts".[2]

Ymateb

[golygu | golygu cod]

Yn y cylchgrawn Barn [Ionawr 1999] cafwyd dau ymateb wrthgyferbyniol i'r ffilm gan ddau ŵr aeth i'w gweld. Teimlai Mihangel Morgan bod y ffilm yn "wan" ac yn "rhy amrwd i fod yn gelfydd".[4] Disgrifiodd y ffilm fel un "[ll]ed bornograffig sy'n dangos dau ddyn yn 'ymaflyd codwm' yn noethlymun mewn gwely" a bod y ffilm namyn "'dylyfiad gên' o'i chymharu â'r sgandal a daniwyd gan bennill neu ddau lle crybwyllir tipyn o hanci-panci rhwng bechgyn ym mhryddest arobryn 1924."[4] Croesawodd y "newid hinsawdd" yn Nghymru rhwng 1924 a 1998, ond mae'n dadlau hefyd mai "cerdd wrth-hoyw" yw Atgof ac mai "dyn ansicr ynglŷn â'i rywioldeb oedd Prosser Rhys".[4]

"Roedd Atgof yn ffilm tsiep (rhad). Ychydig dros ugain munud yn dangos dim ond tri actor, dim ond trosleisio (a rhai lleisiau heb fod yn actorion proffesiynol), cerddoriaeth swynol (i fynd ar eich nerfau), y cyfan mewn du a gwyn (ar esgus o fod yn Gelfyddyd - ond sy'n gwneud i groen yr actorion edrych fel arwynebedd concrit gyda haenen o dywod drosto), a dim sgript".[4]

Beirnadodd Morgan hefyd y ffaith mai "trawsblannu agweddau sîn hoyw 1998 ar amhosibilrwydd sefyllfa dau Gymro ifanc yng Nghymru adweithiol y dauddegau" wnaeth Sherlock, a bod y ffilm yn syrthio rhwng dwy stôl - "y rhaglen ddogfen a'r ffilm arti à la Elvira Madigan heb lwyddo i fod yn naill beth na'r llall".[4]

Teimlai Dafydd Morgan Lewis bod y ffilm "yn llwyddo i gyfleu [...] un o bryddestau arobryn fawr y dauddegau [...] gyda chynildeb".[2] Nododd hefyd bod colofnydd teledu Golwg - Arthur Thomas, "yn cyfeirio'n ddirmygus at y 'Biligydiwrs' ac yn sôn am 'olygfeydd afiach'". Synodd bod "golygydd blaengar y cylchgrawn hwnnw wedi caniatâu erthygl mor homoffobig".[2]

Canmolodd Lewis y "defnydd o eiriau Prosser Rhys ei hun a chadw hefyd at ddyfyniadau o'i eiddo ef a'r beirniaid W. J. Gruffydd, Crwys a Gwili. Byddai wedi bod yn gamgymeriad defnyddio deialog Mills & Boonaidd", ychwanegodd.[2] Beirniadodd sylwadau "gwbl anfaddeuol" Mihangel Morgan mewn erthygl gynharach yn Golwg yn ogystal, a honodd fod "y ffilm yn 'seiliedig ar yr awgrymiadau lleiaf' a bod Prosser Rhys a Morris Williams 'fel bachyn i hongian y ffilm arni'".[2]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Gellir gweld clip byr o'r ffilm yma.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 gwybodaeth bersonol o ebyst rhwng Paul Griffiths a Jane Edwards
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Lewis, Dafydd Morgan (Ionawr 1999). "Pryddest mawr y dauddegau". Barn.
  3. 3.0 3.1 "Dylanwad Prosser Rhys ar gymuned LGBT, canrif ers ei gerdd feiddgar". BBC Cymru Fyw. 2021-07-05. Cyrchwyd 2025-12-20.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 Morgan, Mihangel (Ionawr 1999). "Y Bardd Coronog - yr estheteg hoyw". Barn.