Neidio i'r cynnwys

Astudiaethau crefyddol

Oddi ar Wicipedia
Ambell i symbol crefyddol sy'n cynrychioli crefyddau mwyaf y byd (o'r chwith i'r dde):

Astudio crefydd o safbwynt hanesyddol neu wyddonol yw astudiaethau crefyddol. Nid oes consensws ar beth yn union yw crefydd a thrafodir ei ddiffinio yn aml. Mae'n disgrifio, cymharu, dehongli, ac yn egluro crefydd, gan bwysleisio safbwyntiau empeiraidd, sy'n seiliedig ar hanes a diwylliannau niferus.[1]

Tra bod diwinyddiaeth yn ceisio deall y trosgynnol neu'r goruwchnaturiol yn ôl cofnodion crefyddol traddodiadol, mae astudiaethau crefyddol yn defnyddio dull sy'n fwy gwyddonol ac yn wrthrychol, sydd hefyd yn annibynnol rhag unrhyw safbwynt crefyddol penodol. Mae astudiaethau crefyddol felly yn defnyddio nifer o ddulliau academaidd a methodolegau, gan gynnwys anthropoleg, cymdeithaseg, seicoleg, athroniaeth, a hanes crefydd.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Robert A. Segal (2006). The Blackwell companion to the study of religion (yn Saesneg). Blackwell.
  2. Fitzgerald, Timothy (2003) [2000]. The Ideology of Religious Studies (yn Saesneg). Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 9780195167696.