Asid lactig
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | par o enantiomerau ![]() |
---|---|
Math | alpha hydroxy acid, hydroxy fatty acid, fatty alcohol ![]() |
Màs | 90.031694 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₃h₆o₃ ![]() |
Clefydau i'w trin | Dermatosis gwynebol, dermatitis ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/42/Racemic_lactic_acid_sample.jpg/220px-Racemic_lactic_acid_sample.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/Lactic-acid-skeletal.svg/100px-Lactic-acid-skeletal.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/59/Lactic-acid-3D-balls.png/100px-Lactic-acid-3D-balls.png)
Cyfansoddyn cemegol ydy asid lactig, neu i ddefnyddio'i enw systematig, 2-hydroxypropanoic acid. Mae'n chwarae rôl eitha allweddol mewn prosesau biocemegol e.e. wrth droi llaeth yn llaeth enwyn. Cafodd ei ddiffinio'n gyntaf yn 1780 gan gemegydd o Sweden, sef Carl Wilhelm Scheele. Asid carbocsylig ydyw gyda fformiwla cemegol o C3H6O3. Mae ganddo grŵp heidrocsil y drws nesaf i'r grŵp carbocsil sy'n ei wneud yn asid alffa heidrocsil (AHA). Mewn ffurf hylif, gall golli proton o'r grŵp asidig, gan gynhyrchu ion 'lactate' CH3CH(OH)COO−. Mae'n hydoddi mewn dŵr neu mewn ethanol ac yn heigroscopig.
Asid lactig mewn bwyd
[golygu | golygu cod]Mewn bwyd y ceir hyd i asid lactig fynychaf, mewn llaeth enwyn, iogwrt, ceffir a rhai mathau o gawsiau megis caws gwyn (caws colfran).