Neidio i'r cynnwys

Asha Bhosle

Oddi ar Wicipedia
Asha Bhosle
Ganwyd8 Medi 1933 Edit this on Wikidata
Sangli Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ebrill 2026 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Mumbai Edit this on Wikidata
Label recordioHis Master's Voice, Columbia Graphophone Company Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Alma mater
  • Balmohan Vidyamandir Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, gitarydd, cyfansoddwr, actor ffilm, canwr chwarae-yn-ôl Edit this on Wikidata
Adnabyddus amlist of songs recorded by Asha Bhosle Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth ffilmiau, cerddoriaeth glasurol Hindustani, cerddoriaeth y byd, Indian classical music, Indian folk music, Indian rock, ghazal, qawwali, bhajan, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
TadDeenanath Mangeshkar Edit this on Wikidata
PriodRahul Dev Burman Edit this on Wikidata
PlantVarsha Bhosle Edit this on Wikidata
LlinachMangeshkar Family, Manikya Dynasty Edit this on Wikidata
Gwobr/auDadasaheb Phalke Award, Padma Vibhushan, Gwobr 100 Merch y BBC, National Film Award for Best Female Playback Singer, IIFA Lifetime Achievement Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://ashabhosle.com Edit this on Wikidata

Roedd Ashalata Ganpat Bhosale (ganwyd Ashalata Dinanath Mangeshkar; 8 Medi 193312 Ebrill 2026) yn gantores o India. Roedd hi'n gantores "playback", yn fenyw fusnes, ac yn actores a phersonoliaeth deledu, ond roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei am ei hymwneud â sinema Hindi (Bollywood). Parhaodd ei gyrfa dros wyth deg mlynedd. Enillodd sawl gwobr gan gynnwys dwy Wobr Ffilm Genedlaethol, pedair Gwobr BFJA, deunaw Gwobr Ffilm Talaith Maharashtra, naw Gwobr Filmfare gan gynnwys Gwobr Cyflawniad Oes a saith Gwobr Filmfare am y Gantores Chwarae-yn-ôl Benywaidd Orau. Cafodd hi ddau enwebiad Grammy. Roedd Recordiau Byd Guinness 2011 yn nodi mai hi oedd yr artist a recordiwyd fwyaf yn hanes cerddoriaeth.[1][2]

Cafodd Bhosle ei geni ym mhentref Goar yn Maharashtra. Roedd hi'n perthyn i deulu amlwg y Mangeshkar. Roedd hi'n chwaer i'r gantores Lata Mangeshkar. Daeth Bhosle yn enwog am ei hyblygrwydd.[3][4] Roedd hi'n gweithio ar gerddoriaeth ffilm, yn pop, ghazals, bhajans, cerddoriaeth glasurol draddodiadol, caneuon gwerin, qawwalis, a Rabindra Sangeet. Yn 2013, ymddangosodd fel actores am y tro cyntaf yn y ffilm Mai.

Hi oedd testun y gân boblogaidd "Brimful of Asha", a ryddhawyd gan y band Cornershop ym 1997.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Guinness World Record for the most studio recordings - singles". Guinness World Records (yn Saesneg). October 18, 2011. Cyrchwyd February 27, 2022.
  2. "Asha Bhosle — the voice of Bollywood for eight decades" (yn Saesneg). The Hindu. 12 Ebrill 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2026. Cyrchwyd 13 Ebrill 2026.
  3. Gulzar; Nihalani, Govind; Chatterji, Saibal (2003). Encyclopaedia of Hindi Cinema (yn Saesneg). Popular Prakashan. tt. 532–533. ISBN 81-7991-066-0.
  4. V.L (7 Mehefin 2008). "Chords & Notes". The Hindu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 11 Awst 2010.
  5. "Brimful Of Asha meaning explained – Cornershop (Official Website)" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Ebrill 2026.