Arwel Jones
| Arwel Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Arwel Hogia'r Wyddfa |
| Ganwyd | Griffith Arwel Jones 29 Medi 1942 Llanberis |
| Dinasyddiaeth | Cymro |
| Galwedigaeth | actor, cyfansoddwr, canwr ac athro |
| Cysylltir gyda | Hogia'r Wyddfa |
| Plant | Dafydd Meredydd ac Olwen Meredydd |
Actor, canwr, cyfansoddwr, athro ac un o aelodau'r grŵp Hogia'r Wyddfa yw Arwel Jones (ganwyd 29 Medi 1942) [neu Griffith Arwel Jones].[1] Fel actor, ymddangosodd mewn amrywiaeth o ddramâu ar S4C gan gynnwys Pobol y Cwm a'r ffilm gomedi 'Steddfod!, 'Steddfod!. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer nifer o ganeuon Hogia'r Wyddfa gan gynnwys rhai o glasuron y grŵp fel 'Aberdaron' a 'Hwiangerddi' ar farddoniaeth Cynan a chaneuon poblogaidd fel 'Hen Bentre' Bach Llanbêr' a 'Llanc Ifanc o Lŷn. Mae'n dad i'r cyn-gyflwynydd ac un o benaethiaid BBC Cymru, Dafydd Meredydd, a'r cynhyrchydd teledu Olwen Meredydd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Arwel yn Gwenallt, Stryd Newton, Llanberis yn fab i Richard a Katie Jones.[1] O Laniestyn yr hanai teulu ei dad, a symud oddi yno i Lanrug ble y sefydlodd y cwmni bysus Moduron Peris.[1] Roedd ei fam yn gantores adnabyddus o Bethel, a chrwydrai'r teulu i ganu mewn eisteddfodau a chyngherddau drwy'r wlad, gan gynnwys rhaglenni cynnar y BBC ym Mangor a thaith i’r Unol Daleithiau America, pan oedd Arwel yn 9 oed.[1]
Mynychodd Ysgol Dolbadarn, Llanberis ac yna Ysgol Brynrefail, Llanrug.[1] Aeth i'r coleg yng Nghaerdydd i astudio ymarfer corff, ond bu'n rhaid iddo newid yn sgil gwaeledd, a dilyn cwrs mewn Cymraeg.[1] Tra yn y coleg, ymwelai Myrddin Owen ac Elwyn Jones yn gyson â Chaerdydd, tra bod Arwel yn dychwelyd adref i Ddyffryn Peris, er mwyn bod yn rhan o driawd cychwynol ei gyfeillion, Triawd yr Wyddfa.[1]
Bu'n athro yn Ysgol Llywelyn, Y Rhyl ac yn ei hen ysgol gynradd, Ysgol Dolbadarn, cyn ei benodi'n is-brifathro yn Ysgol Pen-y-bryn, Bethesda. Bu hefyd yn brifathro Ysgol Gynradd Gaerwen ac Ysgol y Bontnewydd ger Caernarfon.[1]
Priododd â Carys, a ganwyd iddynt 2 o blant, ac yn 2025 roeddent yn byw ym Mhenisa'r Waun ers nifer o flynyddoedd.
Fel aelod o Hogia'r Wyddfa, mae Arwel wedi teithio'r byd gan ymweld ag Awstralia, Nigeria ac Unol Daleithiau America ac wedi canu ar rhai o lwyfannau amlwg Lloegr fel Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain. Bu'n rhan o gynyrchiadau gyda Cwmni Theatr Cymru a sawl drama gerdd yn ardal Pwllheli.