Arthur Wynne
Arthur Wynne | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mehefin 1871 Lerpwl |
Bu farw | 14 Ionawr 1945 Clearwater |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, dyfeisiwr |
Arthur Wynne (22 Mehefin 1871 – 14 Ionawr 1945) oedd dyfeisiwr y pos croesair modern. Cafodd ei eni yn Lerpwl ond a hanai o Gymru.
Ganwyd Arthur Wynne ar 22 Mehefin 1871, yn Lerpwl, Lloegr, a bu'n byw am gyfnod yn Edge Lane. Ei dad oedd golygydd y papur bro, y Liverpool Mercury.[1] Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ar 6 Mehefin 1891, yn 19 oed, gan ymsefydlu am gyfnod yn Pittsburgh, Pennsylvania.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Tra yn Pittsburgh, bu Wynne yn gweithio ar bapur newydd y Pittsburgh Press ac yn canu'r ffidil yng Ngherddorfa Symffoni Pittsburgh. Symudodd yn ddiweddarach i Ddinas Efrog Newydd gan weithio ar bapur newydd y New York World. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio'r pos croesair yn 1913, pan oedd yn byw yn Cedar Grove, New Jersey.[2]
Creodd Wynne dudalen o bosau ar gyfer yr adran "Hwyl" yn rhifyn Sul y New York World. Ar gyfer rhifyn 21 Rhagfyr 1913, cyflwynodd bos gyda siâp diemwnt a'i ganol yn wag, gyda'r llythrennau F-U-N (HWYL) eisoes wedi eu eu llenwi. Galwodd ef yn "Word-Cross Puzzle."[3]
Er bod pos Wynne yn seiliedig ar ffurfiau pos cynharach, megis 'diemwnt geiriau', cyflwynodd nifer o bethau arloesol (defnyddio llinellau llorweddol a fertigol i greu blychau i ddatryswyr nodi llythrennau, er enghraifft). Yn dilyn hynny, arloesodd yn y defnydd o sgwariau du mewn trefniant cymesurol i wahanu geiriau mewn rhesi a cholofnau. Ac eithrio'r cynllun rhifo, ffurf posau "Word-Cross" Wynne yw'r un a ddefnyddir ar gyfer croeseiriau modern.[4]
Ychydig wythnosau ar ôl i'r "Word-Cross" cyntaf ymddangos, newidiwyd enw'r pos i "Cross-Word", o bosib o ganlyniad i gamgymeriad cysodi.[5]
Bywyd a marwolaeth ddiweddarach
[golygu | golygu cod]Daeth Arthur Wynne yn ddinesydd yr Unol Daleithiau wedi'i frodori yn yr 1920au. Bu farw yn Clearwater, Florida, ar Ionawr 14, 1945.
Etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]Ar 20 Rhagfyr 2013, cafodd ei anrhydeddu â gwobr Google Doodle rhyngweithiol yn coffáu "100 mlynedd ers y pos croesair cyntaf"[6][7][8] gyda phos gan Merl Reagle. Creodd nifer o bos-groeseirwyr bosau teyrnged i Wynne i goffau'r pen-blwydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hughes, Lorna. "The History makers of Merseyside". Liverpool Echo (1 Awst 2017). Cyrchwyd 13 Awst 2017.
- ↑ Jaegar, Philip Edward (2000). Cedar Grove. Charleston, SC: Arcadia Publishing.ISBN 0-7385-0452-1
- ↑ Augarde, Tony (2003). The Oxford Guide to Word Games. Oxford: Oxford University Press.ISBN 0-19-866264-5.
- ↑ Augarde, Tony (2003). The Oxford Guide to Word Games. Oxford: Oxford University Press.ISBN 0-19-866264-5ISBN 0-19-866264-5.
- ↑ Jaegar, Philip Edward (2000). Cedar Grove. Charleston, SC: Arcadia Publishing. ISBN 0-7385-0452-1ISBN 0-7385-0452-1
- ↑ Waxman, Olivia B. (20 Rhagfyr 2013). "Crossword Inventor Arthur Wynne Honored with Google Doodle". Time Inc. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2013.
- ↑ Cavna, Michael (December 20, 2013). "CROSSWORD GOOGLE DOODLE: Behind the scenes, here's how today's 100th-anniversary interactive puzzle came out letter-perfect". The Washington Post. Cyrchwyd December 20, 2013.
- ↑ Crum, Chris (20 Rhagfyr 2013). "Crossword Inventor Arthur Wynne Gets A Google Doodle". WebProNews. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2013.