Arsyllfa Frenhinol Greenwich
| Math | arsyllfa seryddol, atyniad twristaidd |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Greenwich, Greenwich |
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Maritime Greenwich, Royal Museums Greenwich |
| Lleoliad | Greenwich |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 68 metr |
| Cyfesurynnau | 51.47783°N 0.00139°W |
| Cod OS | TQ3884877338 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
| Sefydlwydwyd gan | Charles II |
| Manylion | |
Lleolir Arsyllfa Frenhinol Greenwich ar fryn ym Mharc Greenwich yn Llundain. Roedd y Seryddwr Brenhinol yn gweithio yn y fan yma ac roedd yr arsyllfa ar y Prif Feridian, sef y meridian sylfaenol ar gyfer pob hydred. Heddiw, mae llinell efydd ar y lawnt yn dangos safle'r Prif Feridian ac ers 16 Rhagfyr, 1999 mae golau laser gwyrdd wedi goleuo i'r gogledd yn ystod y nos. Ymhlith y Cymry sy'n gysylltiedig a'r Arsyllfa mae John William Thomas (1805 – 12 Mawrth 1840), sy'n adnabyddus wrth ei lysenw 'Arfonwyson'.
Comisiynwyd yr arsyllfa gan y brenin Siarl II ym 1675. Adeiladwyd yr arsyllfa wreiddiol, Flamsteed House (1675-76), gan Syr Christopher Wren. Dyma'r adeilad cyntaf ym Mhrydain i gael ei adeiladu'n arbennig fel sefydliad ymchwil gwyddonol.
Nid yw'r awyr uwchben Llundain bellach yn ddigon clir ar gyfer seryddiaeth, felly symudwyd yr Arsyllfa Frenhinol i Gastell Herstmonceux ger Hailsham, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd Sbiendrych Isaac Newton yn y fan yma ym 1967, ond symudwyd ef i La Palma yn Sbaen ym 1979. Symudodd yr Arsyllfa Frenhinol unwaith eto ym 1990, y tro yma i Gaergrawnt, ond ar ôl penderfyniad y Cyngor Ymchwil Ffiseg Gronyn a Seryddiaeth (PPARC) terfynwyd ef ym 1998. Ar ôl hynny symudwyd Swyddfa y Nautical Almanac i Labordy Rutherford Appleton ac unwaith arall i'r Canolfan Technoleg Seryddiol yng Nghaeredin.
Cyn i gyflwyno Amser Cyfesurol Cyffredinol roedd Amser Safonol Greenwich (GMT), sef amser a penderfynwyd ar ôl arsylliadau'r arsyllfa hon, yr amser sylfaenol y byd.
Mae'r pelen amser wedi a'i adeiladwyd gan y Seryddwr Brenhinol John Pond ym 1833 yn dal i gwympo pob dydd ar 13:00. Heddiw, mae yna hefyd amgueddfa offer seryddol a mordwyol sydd yn cynnwys H4, y cronomedr hydred gan John Harrison.


