Arsenal W.F.C.
Enghraifft o'r canlynol | women's association football club |
---|---|
Label brodorol | Arsenal Women Football Club |
Dechrau/Sefydlu | 1987 |
Perchennog | Kroenke Sports & Entertainment |
Pencadlys | Llundain |
Enw brodorol | Arsenal Women Football Club |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.arsenal.com/women |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Arsenal Women Football Club, swyddogol wedi'i dalfyrru i Arsenal yn unig neu Arsenal Women (Arsenal Ladies gynt)[1][2] a'r llysenw y Gunners ("Gwnwyr"), yn glwb pêl-droed merched proffesiynol wedi'i leoli yn Islington, Llundain. Mae'r clwb yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair y Merched, adran uchaf pêl-droed merched yn Lloegr.
Arsenal yw'r clwb pêl-droed merched mwyaf llwyddiannus yn Lloegr, ar ôl ennill 15 teitl cynghrair, 14 Cwpan FA y Merched, saith Cwpan Cynghrair y Merched, 10 Cwpan Cynghrair Cenedlaethol Merched a phum Tarian Gymunedol Merched yr FA. Yn ogystal, nhw hefyd yw'r unig glwb o Loegr i ennill Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA erioed.
Mae Arsenal yn chwarae'r rhan fwyaf o'u gemau cartref yn Stadiwm Emirates, gyda gweddill eu gemau cartref yn cael eu chwarae yn Meadow Park yn Borehamwood.
Prif gystadleuwyr y clwb yw Tottenham Hotspur, ac yna Chelsea.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Important update from our women's team" (yn Saesneg). Arsenal Football Club. 28 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Women's Super League One: Arsenal drop 'Ladies' from name" (yn Saesneg). BBC Chwaraeon. 29 Gorffennaf 2017.