Arrasate (Mondragón)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arrasate
Arrasate-center-4622.jpg
Canol y dref gyda 'mynydd y ddraig'
Enw syddogol Arrasate/Mondragón
Talaith Gipuzkoa,
Gwlad Gwlad y Basg
Poblogaeth 22,027
Cyngor tref http://www.arrasate.eus

Mae Arrasate (Sbaeneg: Mondragón) yn dref yn Gipuzkoa, Gwlad y Basg yn adnabyddus fel canolfan mentrau cydweithredol. Mewn mentwr cydweithredol, mae'r gweithwyr yn berchenogion ar y cwmni ac yn cael pleidleisio ar sut mae rheoli'r cwmni yn hytrach n bod yn gyfranddalwyr sydd a'u bwriad ar wneud elw.[1]

Bellach maeMondragon wedi tyfu i fod ymhlith y deg busnes mwyaf yn economi Sbaen, gan gyflogi dros 70,000 o bobl mewn dros 250 o gwmnïau (chwaer gwmniau) a sefydliadu dros y byd mewn meysydd fel cyllid, diwydiant, mân-werthu, bancio ac addysg.

Yn ôl adroddiad gan adran ymchwil Llywodraeth Sbaen[2] a gyhoeddwyd yn Ebrill 2015, roedd Arrasate yn un o'r 10 uchaf mewn rhestr o lefydd yn Sbaen a oedd wedi llwyddo i wrth sefyll drwg effeithiau'r dirwasgiad economaidd (yr Eurocrisis) a fu'n drychineb i economi Sbaen. Roedd wyth o'r deg ardal o fewn ecomomi Sbaen - a oedd wedi dioddef y lleiaf o broblemau economaidd - yng Ngwlad y Basg gyda mentrau cydweithredol Basgeg yn allweddol i gryfder economaidd a sefydlogrwydd cymdeithasol.[3][4]

Adeilad newydd Prifysgol Mondragon ar y chwith gyda thref Arrasate i'r dde

Ebyn 2013 daeth 71.1% o drosiant y sectorau diwydiannol o werthiant rhyngwladol gyda 122 o is-gwmnïau mewn sawl gwlad ar draws y byd: Tsieina (15), Ffranc (17), Gwlad Pwyl (8),Gweriniaeth Tsiec (7), Mecsico (8), Brasil (5), Yr Almaen (4), Yr Eidal (4), Gwledydd Prydain (3), Rwmania (3) yr Unol Daleithiau (4), Twrci (2), Portiwgal (2), Slofacia (2), India (2), Gwlad Tai (1) a Moroco (1). Gydai'i gilydd yn 2013 roedd y 122 o ganolfannau yn cyflogi dros 11,000 o bobl. Mae mentrau cydweithredol Mondragon hefyd yn cymryd rhan mewn 91 o brosiectau 'R&D' (Ymchwil a Datblygiad) rhyngwladol.[5]

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Arwydd ffordd yn Arrasate gyda'r Sbaeneg 'Mondragón' wedi'i beintio drosto

Mondragón (mynydd y ddraig) oedd enw swyddogol y dref yn ystod yr adeg pan y gorfodwyd y Sbaeneg fel unig iaith y wlad, gan lywodraeth Madrid. Bellach Arrasate/Mondragón yw'r enw swyddogol er bod tuedd i ddefnyddio mwy ar yr enw Basgeg Arrasate ar gyfer y dref a Mondragon fel enw ar y menterau cydweithredol a phrifysgol cydweithedol.

Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1943 sefydlodd offeiriad y pentref José María Arizmendiarrieta goleg technegol a hyfforddodd beiriannwyr ifanc; yn fuan datblygodd y mentrau cydweithredol lleol hyn. Roedd y dref o 7,000 o bobl ar yr adeg honno'n dal i ddioddef o effeithiau Rhyfel Cartref Sbaen gyda thlodi enbyd. Bu rhaid i lawer o bobl Gwlad y Basg ffoi er mwy osgoi cael eu herlid gan Lywodraeth Sbaen.[6]

Sefydlwyd y fenter gydweithredol gyntaf yn y dref ym 1956 gan bobl leol oedd wedi bod yng ngholeg technegol Arizmendiarrieta. Eu cynnyrch cyntaf oedd tanau paraffin.


Mentrau cydweithredol Mondragon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o bobl yr ardal yn cael eu cyflogi mewn cwmniau fel Euskadiko Kutxa (banc), Eroski (cadwyn o archfarchnadoedd), Fagor (cynnych peirianyddol), Mondragon Unibertsitatea (Prifysgol Mondragon), ayb sydd i gyd yn rhan o'r Mondragón Corporación Cooperativa.

Eroski[golygu | golygu cod y dudalen]

Archfarchnad Eroski yn Gasteiz (Vitoria), Gwlad y Basg

Prif gwmni gwrthiant y mentrau cydweithredol yw Eroski sy'n gadwyn o archfarchnadoedd gyda dros 1,000 o siopau ar draws Sbaen. Mae'r siopau'n amrywio o 75 'hyper-farchnad' mawr (40 gyda'u gorsafoedd petrol eu hunain) i lawr i dros 470 o siopau llai Eroski Center a 219 o Eroski City mewn trefi. Mae Eroski Viajes yn asiantaeth wyliau gyda dros 230 o ganolfannau.

Mae'r enw Eroski yn gyfuniad o'r geiriau Basgeg "erosi" (prynu) a "toki" (lle).

Rheoli cyflog[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tu mewn i fentrau Mondagon mae cytundebau ynglŷn â gymhareb rhwng faint mae gweithwyr a'r rheolwyr yn ennill. Mae'r gymhareb hon yn amrywio o 3:1 i 9:1 mewn gwahanol sectorau. Mae'r cyfartaledd yn 5:1, hynny yw bod prif reolwr ond yn ennill 5 gwaith yn fwy na'r gweithiwr ar y cyflog isaf yn y sector. Penderfynnir ar y gymhareb drwy bleidlais ddemocrataidd yr holl weithwyr/perchnogion. Mae hyn yn dra gwahanol i gyflogwyr mewn busnesau arferol ble gall rheolwr mewn cwmni mawr ennill can gwaith yn fwy na'r gweithiwr isaf.[1] [7]

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Mondragon Unibertsitatea (Prifysgol Mondragon) yn brifysgol cydweithredol gyda chysylltiad agos gyda busnesau a diwydiannau eraill mentrau Mondagon. Mae cryn bwyslais ar 'R&D' - datblygiadau technegol ac ymchwil.[8]

Ceir 15 o ganolfannau technegol, yn 2009 roedd ganddynt dros 700 o weithwyr gyda chyllideb o dros €53.7 miliwn. Roedd dros 1,700 yn gweithio ar yr ochr 'R&D'. Mae Mondragon wedi cofrestri dros 450 patent.[5]

Mae'r mentrau hefyd yn darparu addysg i'w gweithwyr, gwarchod plant a chyfleodd i ddysgu a gwella eu sgiliau iaith Fasgeg.[9][10]

Effaith yr Eurocrisis[golygu | golygu cod y dudalen]

Dioddefodd economi Sbaen yn arbennig o ddrwg yn dilyn yr argyfwng economaidd o fewn ardal yr Ewro. Achosodd hyn broblemau difrifol i Fagor sector peirianyddol mentrau cydweithredol Mondragon.

Yn gynhyrchwyr peiriannau golchi a stofiau roedd Fagor wedi tyfu yn ystod yr 1980 pan roedd cyflogau economi Sbaen yn is na llawer o wledydd Ewropeaid eraill. Oherwydd globaleiddio roedd y rhan mwyaf o'r waith cynhyrchu o'r fath wedi symud i wledydd Asia gyda chostau llawr is, gyda Fogor yn ei chael hi'n anodd i gystadlu yn y farchnad.

Gyda dyledion o dros €1 biliwn bu'n rhaid i Fagor fynd yn fethdalwr ym 2013 gan beryglu dros 5,000 o swyddi.[11]

Yn ôl adroddiad gan adran ymchwil Llywodraeth Sbaen[2] a gyhoeddwyd yn Ebrill 2015, roedd Arrasate yn un o'r 10 uchaf mewn rhestr o lefydd yn Sbaen a oedd wedi llwyddo wrth sefyll drwg effeithiau'r Eurocrisis. Roedd wyth o'r deg ardal yn o fewn ecomomi Sbaen a oedd lleiaf wedi dioddef problemau economaidd yng Ngwlad y Basg gyda mentrau cydweithredol Basgeg yn allweddol i gryfder economaidd a sefydlogrwydd cymdeithasol.[3][4]

Yn ôl ffigyrau 2012 mae'r dref Oñati, drws nesaf i Arrasate, gyda'r lefel isaf o ddiweithdra trwy economi Sbaen gyda dim ond 300 o bobl yn ddi-waith o boblogaeth 10,000 - tra roedd cyfartaledd Sbaen yn 24.6%.[12]

Lleoliad Gwlad y Basg
Taleithiau Gwlad y Basg

Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Leading the Dragon - Lessons for Wales from the Basque Mondragon Co-Operative. Golygydd John Osmond. Sefydliad Materion Cymreig, 2012. dolen

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:




Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]