Argyfwng Culfor Hormuz
| Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Map o Gulfor Hormuz. | |
| Enghraifft o: | blocâd, crisis situation |
|---|---|
| Achos | Rhyfel israel a'r unol daleithiau yn erbyn iran |
| Rhan o | Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran |
| Dechreuwyd | 28 Chwefror 2026 |
| Lleoliad | Culfor Hormuz |
![]() | |
| Dynodwyr | |
Cychwynnodd argyfwng Culfor Hormuz ar 28 Chwefror 2026, pan ymatebodd Iran i ymosodiadau gan Israel ac Unol Daleithiau America drwy rwystro'r rhan fwyaf o drafnidiaeth morgludiant drwy Gulfor Hormuz, un o brif dagfeydd morol y fasnach ynni ryngwladol. Cyhoeddodd Corfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC) rybuddion i longau rhag teithio trwy'r culfor, ac ers dechrau'r rhyfel mae wedi ymosod ar o leiaf 21 o longau masnach, ac yn ôl adroddiadau wedi gosod ffrwydrynnau môr yn nyfroedd y culfor. Cyn dechrau'r argyfwng, teithiai tua 25% o fasnach olew y byd a gludir ar y môr a 20% o nwy naturiol hylifedig y byd drwy Gulfor Hormuz, sy'n gwahanu Iran ac Arabia ac yn cysylltu Gwlff Persia â Chefnfor India.
Paro'r rhybuddion a'r ymosodiadau i gwmnïau llongau ohirio'u busnes yn y culfor, gan achosi gostyngiad sydyn mewn trawsteithiau.[1][2] Lleihaodd trafnidiaeth tanceri gan 70% i gychwyn, a chafodd dros 150 o longau eu hangori y tu allan i'r culfor i osgoi'r risgiau.[3][4] Ymhen wythnosau, gostyngodd trafnidiaeth i sero bron. Ar 27 Mawrth, cyhoeddodd yr IRGC fod y culfor ar gau i unrhyw long sy'n teithio "i neu o" borthladdoedd yr Unol Daleithiau, Israel, a'u cynghreiriaid.[5] Mae cau Culfor Hormuz gan Iran yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr, am ei fod yn gwrthod trafnidiaeth drwy gulfor a ddefnyddir gan longau ar gyfer masnach ryngwladol.
O ganlyniad i ofn prinder cyflenwadau ynni, cynyddodd prisiau olew yn gyflymach na mewn unrhyw wrthdaro arall mewn hanes diweddar;[6] ar 8 Mawrth 2026 aeth pris olew crai Brent yn uwch na US$100 y baril am y tro cyntaf mewn pedair mlynedd, gan godi i $126 ar ei uchaf.[4][7][8][9] Ym Mawrth 2026 cafwyd y cynnydd misol mwyaf erioed mewn prisiau olew.[10] Cau Culfor Hormuz yn 2026 ydy'r amhariad mwyaf ar gyflenwadau ynni'r byd ers argyfwng ynni'r 1970au,[11] a'r mwyaf yn hanes y farchnad olew fyd-eang.[12] Mae'r argyfwng wedi aflonyddu ar gyflenwadau a phrisiau marchnadau cynwyddau eraill, gan gynnwys alwminiwm,[13] gwrtaith,[14] ac heliwm.[15][16]
Ar 9 Mawrth 2026 honnodd Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn anghywir fod lluoedd arfog Iran wedi eu dinistrio a Chulfor Hormuz wedi ei ail-agor, a datganodd hefyd ei fod am gymryd rheolaeth dros y culfor oddi ar Iran.[17] Ar 15 Mawrth, mynnodd Trump gymorth oddi ar NATO a Tsieina i ail-agor y culfor.[18] Ar 19 Mawrth, dechreuodd Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau ymgyrch filwrol yn y culfor, ac yn ddiweddarach bygythiodd Trump dro ar ôl tro ddinistrio isadeiledd yn Iran os na chaiff ei ail-agor.[19] Ar 8 Ebrill, cytunwyd ar gadoediad a oedd i gynnwys ail-agor y culfor. Fodd bynnag, parhaodd Iran i reoli trafnidiaeth drwy'r culfor, a dechreuodd godi toll dros $1 miliwn ar bob llong.[20] Yn sgil methiant y trafodaethau heddwch yn Islamabad, cyhoeddodd Trump bydd Llynges yr Unol Daleithiau yn dechrau blocâd ac yn clirio ffrwydrynnau yn y culfor.[21] Cychwynnodd y blocâd ar 13 Ebrill, gyda'r Unol Daleithiau yn atal tanceri rhag cael mynediad i borthladdoedd Iran.[22]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How US-Israel attacks on Iran threaten the Strait of Hormuz, oil markets". Al Jazeera. 1 March 2026. Cyrchwyd 2 March 2026.
- ↑ "Oil and gas majors and traders suspend shipments via Hormuz, sources say". Reuters. 28 February 2026. Cyrchwyd 2 March 2026.
- ↑ Triebert, Christiaan; Cardia, Alexander (28 February 2026). "After Iran Attacks, Ship Traffic Plummets in Strait of Hormuz". The New York Times. Cyrchwyd 2 March 2026. Unknown parameter
|name-list-style=ignored (help) - ↑ 4.0 4.1 "Oil prices rise as Iran war threatens shipping through strait of Hormuz". The Guardian. 2 March 2026. Cyrchwyd 2 March 2026.
- ↑ "Iran says Hormuz closed for shipping to and from 'enemy' ports". Agence France Press via South China Morning Post. 27 March 2026. Cyrchwyd 27 March 2026.
- ↑ Lipsky, Josh; Piasecki, Bart; Yin, Jessie (18 March 2026). "The Iran oil shock may be diffrent from other price spikes". Atlantic Council. Cyrchwyd 18 March 2026.
- ↑ "Oil jumps 10% on Iran conflict and could spike to $100 a barrel, analysts say". Reuters. 1 March 2026. Cyrchwyd 2 March 2026.
- ↑ "Oil surges and stock futures sink after war in Iran disrupts crude supply". CNN. 1 March 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 March 2026. Cyrchwyd 2 March 2026.
- ↑ Kimball, Spencer (8 March 2026). "Oil surges above $100 a barrel; Trump says 'small price to pay' for defeating Iran". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2026. Cyrchwyd 8 March 2026.
- ↑ Sheen, Mike; Shan, Lee Ying (14 April 2026). "Oil falls as IEA predicts 'demand destruction will spread' and hopes for fresh Iran talks grow". CNBC. Cyrchwyd 14 April 2026.
- ↑ Burke, Jason (11 March 2026). "Iran escalates attacks on infrastructure and transport networks across the Gulf". The Guardian. Cyrchwyd 11 March 2026.
- ↑ Karma, Rogé (13 March 2026). "'We Would Be Entering a Completely Different World'". The Atlantic. Cyrchwyd 13 March 2026.
- ↑ Burton, Mark (15 March 2026). "Bahrain starts output cuts at world's top aluminum smelter". Fortune. Cyrchwyd 21 March 2026.
- ↑ Gomez Horta, Eduardo; Mohseni-Cheraghlou, Amin (27 March 2026). "The Iran war's economic fallout won't stop at oil—agriculture and aluminum are next". Atlantic Council. Cyrchwyd 27 March 2026.
- ↑ Lotz, Avery (7 April 2026). "Iran war deflates critical helium production supplies". Axios. Cyrchwyd 7 April 2026.
- ↑ Buchanan, Naomi (21 March 2026). "It's not just oil: 3 critical supply chains being upended by the war in Iran". Business Insider. Cyrchwyd 21 March 2026.
- ↑ "Trump says "the war is very complete," and he's considering taking over Strait of Hormuz". CBS News. 9 March 2026.
- ↑ "Trump draws backlash for comment on Iran war: 'Maybe we shouldn't even be there'". The Guardian. 16 March 2026.
- ↑ "Oil, strait of Hormuz and empty threats: a timeline of Trump's flip-flopping on the Iran war". The Guardian. 4 April 2026.
- ↑ Seligman, Lara; Ward, Alexander; Gordon, Michael R. (2026-04-09). "Trump Allies, U.S. Officials Fear Iran Victory Lap Is Premature". The Wall Street Journal (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-04-09.
- ↑ "Trump says U.S. will blockade Strait of Hormuz and intercept ships that paid tolls to Iran". CBS News (yn Saesneg). 2026-04-12. Cyrchwyd 2026-04-12.
- ↑ "Blocâd gan America ar borthladdoedd Iran yn dod i rym", S4C (13 Ebrill 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Ebrill 2026.
