Arglwydd Ninian Crichton-Stuart

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arglwydd Ninian Crichton-Stuart
Lord Ninian Edward Crichton-Stuart.jpg
Ganwyd 15 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Swydd Ayr Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Hydref 1915 Edit this on Wikidata (32 oed)
Loos-en-Gohelle Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o'r 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tad John Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute Edit this on Wikidata
Teulu John Crichton-Stuart, 4th Marquess of Bute, Lord Colum Crichton-Stuart Edit this on Wikidata
Cerflun er cof am yr Arglwydd Ninian. Wedi ei leoli yng Ngerddi Gorsedd, Caerdydd. Cerfiwyd gan William Goscombe John (1860-1952)

Aelod Seneddol yr Unoliaethwyr dros Gaerdydd a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Lefftenant-Cyrnol Arglwydd Ninian Edward Crichton-Stuart (15 Mai 18832 Hydref 1915). Fe'i ganed yn Dumfries House, Swydd Ayr[1] yn ail fab i John Crichton-Stuart, 3ydd Marcwis y Biwt a'r Anrhydeddus Gwendolen Mary Anne Fitzalan Howard.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Ninian Crichton-Stuart ei eni yn Dumfries House, Swydd Ayr[1] a chafodd ei fagu yng Nghastell Caerdydd[1]. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow ac wedi gadael yr ysgol teithiodd i Rwsia er mwyn dysgu Rwsieg gyda'r gobaith o ddilyn gyrfa yn Gwasanaeth Llysgenhadol[1]. Wedi salwch tra yn Rwsia, dychwelodd gartref er mwyn mynychu Coleg yr Iesu, Rhydychen.

Yn dilyn marwolaeth ei dad, 3ydd Marcwis y Biwt, etifeddodd Falkland House yn Fife ac ar 16 Mehefin 1906, priododd yr Anrhydeddus Ismay Preston merch y diweddar 14eg Is-iarll Gormanston.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd gomisiwn gyda 3ydd Bataliwn Ucheldirwyr Cameron y Frenhines ym 1903 a gwasanaethodd am ddwy flynedd gyd Bataliwn 1af, y Gwarchodlu Albanaidd ond gadawodd y fyddin ym 1906 er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa wleidyddol. Ym 1907 cafodd ei fabwysiadu'n ymgeisydd yr Unoliaethwyr ar gyfer Bwrdeistrefi Caerdydd, Y Bont Faen a Llantrisant.

Yn ystod Etholiad Cyffredinol mis Ionawr 1910 methiant oedd ei ymgais i ddod yn Aelod Seneddol wrth i David Alfred Thomas o'r Blaid Rhyddfrydol sicrhau mantais o 1,555 dros Crichton-Stuart gyda 13,207 o bleidleisiau[2], ond wedi ymddeoliad Thomas cyn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1910, llwyddodd Crichton-Stuart i gael ei ethol gyda 12,181 o bleidleisiau - mantais o 299 dros yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Syr Clarendon Golding Hyde[2].

Parc Ninian[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1910, rhoddodd Crichton-Stuart gefnogaeth mawr i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wrth iddynt chwilio am faes newydd. Er mwyn diolch am ei gefnogaeth, cafodd y maes newydd ei enwi'n Barc Ninian[3]

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1912, cymerodd reolaeth o 6ed Bataliwn Y Gatrawd Cymreig. Bu farw ar faes y gâd ar 2 Hydref 1915 mewn ymosodiad ar Hohenzollern Redoubt ger La Bassée. Ar ôl cipio ffos y gelyn, cafodd Crichton-Stuart ei saethu gan saethwr cudd y gelyn[4]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Alfred Thomas
Aelod Seneddol dros Gaerdydd
Rhag. 19101915
Olynydd:
James Herbert Cory