Arglwydd Edward FitzGerald

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arglwydd Edward FitzGerald
LordEdwardFitzgerald.jpg
Ganwyd 15 Hydref 1763 Edit this on Wikidata
Carton House Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Mehefin 1798 Edit this on Wikidata (34 oed)
Newgate Prison, Dublin Edit this on Wikidata
Aelod o Cymdeithas y Gwyddelod Unedig Edit this on Wikidata
Teulu Charlotte Strutt, barwnes 1af Rayleigh, William FitzGerald, ail ddug Leinster, Henry FitzGerald, Charles FitzGerald, barwn 1af Lecale, Lucy Fitzgerald Edit this on Wikidata

Cenedlaetholwr Gwyddelig oedd Arglwydd Edward FitzGerald (15 Hydref 1763 - 4 Mehefin 1798).

Roedd FitzGerald yn bumed mab i James FitzGerald, Dug 1af Leinster, a Duges Leinster. Ganed ef gerllaw Dulyn, ac addysgwyd ef yn breifat. Ymunodd a'r Fyddin Brydeinig yn 1779, ac ymladdodd yn Rhyfel Annibyniaeth America hyd 1782. Dychwelodd i Iwerddon yn 1783, ond ail-ymunodd a'r fyddin yn ddiweddarach a bu'n gwasanaethu yng Nghanada.

Roedd ei frawd, 2il Ddug Leinster, wedi trefnu iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Swydd Kildare. Roedd yn frwd dros y Chwyldro Ffrengig, ac aeth i ddinas Paris yn Hydref 1792, gan aros gyda Thomas Paine. Priododd ferch o'r enw Pamela tra yn Ffrainc. Ymunodd a Cymdeithas y Gwyddelod Unedig yn 1796; cymdeithas a oedd erbyn hynny yn anelu at greu gweriniaeth annibynnol yn Iwerddon.

Daeth yn un o arweinwyr y Gymdeithas erbyn Gwrthryfel Gwyddelig 1798. Roedd dyddiad dechrau'r gwrthryfel wedi ei bennu fel 23 Mai, ond ar 18 Mai rhoddodd gŵr o'r enw Magan wybod i'r awdurdodau ymhle yr oedd FitzGerald, oedd yn ei wely yn diddef gan dwymyn. Clwyfwyd ef wrth geisio dianc, a bu farw o'i glwyfau yng ngharchar Newgate, Dulyn ar 4 Mehefin.