Ardal Lywodraethol Ma'an
Math | Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen |
---|---|
Prifddinas | Ma'an |
Poblogaeth | 175,200 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Iorddonen |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 33,832.3 km² |
Yn ffinio gyda | Ardal Lywodraethol Amman, Ardal Lywodraethol Karak, Tafilah Governorate, Ardal Lywodraethol Aqaba |
Cyfesurynnau | 30.195°N 35.73417°E |
JO-MN | |
Mae Ardal Lywodraethol Ma'an (Arabeg محافظة معان; trawsgrifiad: Muḥāfaẓat Ma'ān) yn un o ddeuddeg ardal lywodraethol ("Gofernad") yng Nghwlad Iorddonen. Prif dref a thref gweinyddiaeth yr ardal yw Ma'an. Yn wahanol i system awdurod sirol yng Nghymru, caiff pennaeth y Gofernad ei b/phenodi gan Lywodraeth y wlad. Yn yr achos hyn, mae'r grym penodi yn nwylo Abdullah II, brenin Iorddonen.
Lleoliad a daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Gofernad Ma'an wedi'i leoli yn ne ddwyrain y wlad. Ffinir hi i'r gogledd gan Ardal Lywodraethol Amman, ac i'r gorllewin gan gofernadau Ardal Lywodraethol al-Karak, Tafila ac Aqaba, ac i'r dwyrain a'r de gan Deyrnas Sawdi Arabia.
Mae'r dalaith yn cael ei gorchuddio gan anialwch yn bennaf, yn rhan orllewinol y dalaith mae mynyddoedd Ash-Sharat gyda nifer o fynyddoedd sydd â chopaon dros 1500m.
Mae'r gofernad yn cwmpasu ardal o 32,832 km²[1] (sef ychydig dros 50% yn fwy na thiriogaeth Cymru) ac felly mae'n cwmpasu mwy na thraean o'r diriogaeth genedlaethol Gwlad Iorddonen.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Gofernad Ma'an yn gyfoethog o ran hanes, fel y gwelir yn y safleoedd Oes y Cerrig Basta a Ba'ja. Bu unwaith yn rhan o Deyrnas Edom, roedd Petra, prifddinas teyrnas y Nabataeaid yn ddiweddarach, yn pencadlys i'r rhanbarth. Yn ystod ei hanes, bu'r rhanbarth o dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, concwerwyd hi gan y chwyldro y crefydd Islamaidd a sgubodd allan o benrhyn Arabia yn y 7g gan droi'r ardal yn bobl y ffydd Moslemaidd. Bu hefyd yn faes y gâd yn ystod y Croesgadau wrth i luoedd Cristnogol geisio adfeddianu Jeriwsalem i'w fydd hwy a ffyddlondeb i'r Pâd. Mae castell Montreal yn hanesyddol dyst i bresenoldeb y Croesgadwyr.
Bu'r ardal am gyfnod yn rhan o sir Jeriwsalem fel rhan o lywodraeth leol Ymerodraeth yr Otomaniaid. Yn 1895 cafwyd ad-drefnu pellach ac er y cynnigiwyd Ma'an fel prif dref y Sanjak (sir) penderfynwyd ar Karak a daeth Ma'an yn rhan o Sanjak Karak (gelwir 'sanjak' hefyd yn "Mutasarrifate").[2] Gyda chwymp yr Ymerodraeth yn 1918 daeth y diriogaeth am gyfnod yn rhan o deyrnad byr-hoedlog yr Hijaz. Ond gyda ymgorffori'r rhan fwyaf o'r deyrnas honno i deyrnas newydd Sawdi Arabia daeth tiriogaeth Gofernad Ma'an (er nad oedd yr ardal Lywodraethol wedi ei sefydlu ar y pryd) yn rhan o Deyrnas newydd Hashimitaidd Gwlad Iorddonen yn 1925 o dan Abdullah I.[3]
Sefydlwyd Goferna Ma'an yn 1965. Ym 1994, cafodd ei ffurf bresennol pan ymranwyd hi oddi ar Gofernad Aqaba.[4]
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Gyda 124,100 o drigolion (2013), Ma'an yw'r dalaith gyda'r boblogaeth leiaf ond un yn y wlad a'r dwysedd poblogaeth isaf. Cyfanswm y boblogaeth drefol oedd 68,100 o bobl gyda 56,000 o drigolion mewn ardaloedd gwledig. Y gyfradd ddiweithdra yn 2013 oedd 15%.[1]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Poblogeth y dosbarthiadau ("liwā") yn ôl y cyfrifiad:[5]
Dosbarth ("liwā") | Poblogaeth (Cyfrifiad 1994) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2004) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2015) |
---|---|---|---|
Gofernad Ma'an | 79,670 | 94,253 | 144,082 |
Al-Betrā' (Petra) | 22,459 | 23,840 | 19,828 |
Al-Ḥuseīniyah | 6,472 | 8,310 | 17,323 |
Ash-Shūbak | 9,881 | 11,087 | 19,279 |
Qaṣabah Ma'ān | 40,858 | 51,016 | 87,652 |
Haenau Llywodraethol Is
[golygu | golygu cod]Rhennir Gofernad Ma'an yn bedair ardal (liwā): Qasaba Ma'an (yn seiliedig ar Ma'an), Petra (yn seiliedig ar Wadi Musa), ash-Shaubak (yn seiliedig ar ash-Shaubak), ac al-Husainiyya (sy'n byw yn al-Husainiyya). Ardal Qasaba Ma'an yw'r unig un o'r ardaloedd hyn sydd wedi'u hisrannu ymhellach i'r pum isranbarth (qadā) Ma'an, Īl, al-Jafr, al-Muraigha ac Adhruh[1]
Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Y prif ffyrdd sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r ardal yw'r R15 a'r R35 tua'r gorllewin a'r A5 i'r dwyrain. Ar ben deheuol yr A5 yn al-Mudawwara mae croesfan ffin â Sawdi Arabia.
Rhed rheilffordd bwysig Aqaba drwy'r diriogaeth hefyd.
Golygfeydd a lleoedd arbennig
[golygu | golygu cod]Dinas fwyaf y llywodraethwr yw'r brifddinas Ma'an, cartref Prifysgol Al-Hussein Bin Talal a chanolfan parth economaidd arbennig.[3]
Mae twristiaeth yn bwysig i'r ardal ac ymysg y prif atyniadau mae ardal Wadi Musa gyda dinas graig Petra, y Siq el-Barid a'r Jabal Harun. Mae atyniadau eraill yn Ardal Lywodraethol Ma'an yn cynnwys cestyll Montreal, Qasr al-'Unaiza a Qasr Ma'an.[6] Lle pwysig yn hanes Islam hefyd yw Jabal at-Tahkim.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 http://www.dos.gov.jo/dos_home_a/main/yearbook_2013.pdf
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/Karak_sanjak
- ↑ 3.0 3.1 http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=427[dolen farw]
- ↑ http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=427&AspxAutoDetectCookieSupport=1[dolen farw]
- ↑ "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-09. Cyrchwyd 2019-04-30.
- ↑ http://moi.gov.jo/Pages/viewpage.aspx?pageID=421[dolen farw]