Ardal Lywodraethol Amman

Oddi ar Wicipedia
Ardal Lywodraethol Amman
MathArdaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
PrifddinasAmman Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,007,526 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Arwynebedd7,579.2 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArdal Lywodraethol Zarqa, Ardal Lywodraethol Ma'an Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.9497°N 35.9328°E Edit this on Wikidata
JO-AM Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.746 Edit this on Wikidata

Enw swyddogol Ardal Lywodraethol Amman yw Muhafazat al-Asima (neu mewn Arabeg: محافظة العاصمة‎), sy'n un o 12 o ardaloedd llywodraethol yng Ngwlad Iorddonen. Prifddinas yr ardal yw Amman, sydd hefyd yn brifddinas i'r wlad gyfan. Lleolir y swyddfeydd gweinyddol yr ardal a Llywodraeth y wlad ym maestref Abdali.

Mae poblogaeth Ardal Lywodraethol Amman yn uwch nag unrhyw un o'r ardaloedd llywodraethol eraill yn yr Iorddonen. I'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, mae'n ffinio gydag Ardal Lywodraethol Zarqa, ac ac ardaloedd llywodraethol Balqa a Madaba i'r gorllewin ac ardaloedd llywodraethol Karak a Ma'an i'r de. Mae hefyd yn rhannu ffin rhywladol gyda Saudi Arabia i'r gorllewin.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu pobl yn byw yn yr ardal yma ers cynhanes a cheir adfeilion yma o sawl gwareiddiad, mor gynnar â 7250 CC yn 'Ain Ghazal ger Amman; y safle hwn yw un o'r aneddiadau cynhanesyddol mwyaf yn y Dwyrain Canol.

Amman oedd prifddinas cadarn yr Ammoniaid, "Rabbath Ammon" oedd eu henw hwy ar y lle. Roedd yr Ammoniaid yn rheoli bron holl dir Ardal Lywodraethol Amman. Ar ôl i'r Rhufeiniaid gymryd rheolaeth o'r rhanbarth, cafodd Amman ei ailenwi'n "Philadelphia", ac roedd yn un o'r deg dinas Decapolis Rufeinig. Yn dilyn y goncwest Mwslemaidd-Arabaidd, dechreuwyd ail-ddefnyddio'r enw 'Amman'. Dynodwyd y safle Bysantaidd Umm ar-Rasas yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2004.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Hinsawdd Môr y Canoldir Dwyreiniol yw hinsawdd yr ardal. Fodd bynnag, gan fod Amman wedi'i leoli ar lwyfandir bryniog, gall y dyddodiad a'r tymheredd blynyddol cyfartalog amrywio'n sylweddol o un lleoliad i'r llall, hyd yn oed o fewn dinas Amman. Er enghraifft, gall fod yn bwrw eira yn ardal Sweileh sydd â drychiad o 1,050m uwchlaw lefel y môr, ond yn gymylog heb unrhyw law yng nghanol dinas Amman, sydd â drychiad o 780m. O ran arwynebedd, Ardal Lywodraethol Amman yw'r ardal mwyaf ond un yng Ngwlad Iorddonen, a'r mwyaf yn ôl poblogaeth.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Rhanbarthau[golygu | golygu cod]

Mae poblogaeth y Rhanbarthau, yn ôl y cyfrifiad fel a ganlyn:[2][3][4]

Rhanbarth Poblogaeth
(Cyfrifiad 1994)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2004)
Poblogaeth
(Cyfrifiad 2015)
Ardal Lywodraethol Amman 1,576,238 1,942,066 4,007,526
Al-Jāmi'ah ... 279,359 743,980
Al-Jīzah 32,446 42,051 118,004
Al-Mūaqqar 18,239 30,017 84,370
Al-Quwaysimah ... 257,260 582,659
Mārkā ... 483,819 956,104
Nā'ūr (Na'our) 37,281 66,220 129,650
Qaṣabah 'Ammān ... 552,511 855,955
Saḥāb 49,060 57,037 169,434
Wādī as-Sīr 132,195 173,792 367,370

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Sub-national HDI - Area Database - Global Data Lab". hdi.globaldatalab.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-13.
  2. "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2016.
  3. "DOS Jordan 1994 Census". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2019-04-14.
  4. [https://web.archive.org/web/20110722071314/http://www.dos.gov.jo/dos_home/census2004/cen04_3.pdf/table_3_1.pdf 2 Gorffennaf 2011}}