Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Derbyshire |
| Prifddinas | Wingerworth |
| Poblogaeth | 103,783 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Derby (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 275.6235 km² |
| Yn ffinio gyda | Ardal Bolsover, Bwrdeistref Chesterfield, Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby, Bwrdeistref Amber Valley |
| Cyfesurynnau | 53.2°N 1.5°W |
| Cod SYG | E07000038 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of North East Derbyshire District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby (Saesneg: North East Derbyshire District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 276 km², gyda 101,462 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio Ardal Bolsover a Bwrdeistref Chesterfield i'r dwyrain, Bwrdeistref Amber Valley i'r de, Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby i'r gorllewin, a De Swydd Efrog i'r gogledd.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 24 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Cyn 2015 roedd pencadlys yr ardal yn nhref Chesterfield, sydd wedi'i lleoli mewn awdurdod arall, ond bellach mae'r pencadlys wedi symud i bentref Wingerworth. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Clay Cross, Dronfield, Eckington a Killamarsh.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 13 Awst 2020
