Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby

Oddi ar Wicipedia
Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDerbyshire
PrifddinasMatlock, Swydd Derby Edit this on Wikidata
Poblogaeth71,977 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Derby
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd792.4241 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBwrdeistref High Peak, Ardal De Swydd Derby, Bwrdeistref Amber Valley, Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.05°N 1.7°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000035 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Derbyshire Dales District Council Edit this on Wikidata
Map

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby (Saesneg: Derbyshire Dales District).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 792 km², gyda 72,325 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref High Peak i'r gogledd-orllewin, Ardal Gogledd-ddwyrain Swydd Derby a Bwrdeistref Amber Valley i'r dwyrain, ac Ardal De Swydd Derby i'r de-ddwyrain, yn ogystal â siroedd De Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain a Swydd Stafford i'r gorllewin.

Ardal Dyffrynnoedd Swydd Derby yn Swydd Derby

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol "Gorllewin Swydd Derby" oedd ei henw, ond fe'i hailenwyd ym 1988.

Rhennir yr ardal yn 109 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Matlock. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Ashbourne, Bakewell, Darley Dale a Wirksworth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 5 Tachwedd 2020