Neidio i'r cynnwys

Archgyfandir

Oddi ar Wicipedia
Archgyfandir
Animeiddiad o'r archgyfandir Pangaea yn ymrannu i ffurfio cyfandiroedd y presennol.
Mathcyfandir Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscraton Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/073qk edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn naeareg, mae archgyfandir[1] yn ehangdir sy'n cynnwys mwy nag un craidd cyfandirol, neu darian.

Mae cyfandiroedd y byd wedi cyfuno i ffurfio archgyfandiroedd mawr ar sawl achlysur, gan gynnwys Cenorland (~2.5 Ga), Nwna (~1.5 Ga), a Rodinia (~1 Ga). Unodd nifer o gyfandiroedd hemisffer y de (De America, Affrica, Awstralia, a'r Antarctig) fel archgyfandir Gondwana am ran helaeth o'r Palaeosöig, a chyfandiroedd yn hemisffer y gogledd (Gogledd America a'r Ynys Las) fel Lawrensia. Ffurfiwyd un archgyfandir enfawr o'r enw Pangaea ~300 Ma, sydd wedi parhau i wahanu ers ~200 Ma.[2]

Mae'r union ddiffiniad o archgyfandir yn ddadleuol. Mae rhai yn ystyried Ewrasia, Affrica-Ewrasia, yr Amerig, ac Oceania yn archgyfandiroedd heddiw.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "archgyfandir", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 7 Mehefin 2026.
  2. Marie Busfield et al., Daearyddiaeth: Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2020), t. 22.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.