Émile Durkheim

Oddi ar Wicipedia
Émile Durkheim
GanwydDavid Émile Durkheim Edit this on Wikidata
15 Ebrill 1858 Edit this on Wikidata
Épinal Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Émile Boutroux Edit this on Wikidata
Galwedigaethanthropolegydd, athronydd, cymdeithasegydd, athro cadeiriol, hanesydd crefydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Elementary Forms of the Religious Life, The Division of Labour in Society, Education and Sociology (book) Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLouis de Bonald, Auguste Comte, Herbert Spencer, Montesquieu Edit this on Wikidata
PriodLouise Dreyfus Edit this on Wikidata

Cymdeithasegydd Ffrengig oedd Émile Durkheim (15 Ebrill 185815 Tachwedd 1917). Ystyrir ei waith yn allweddol o ran gosod sylfeini cymdeithaseg ac anthropoleg. Bu'n olygydd y cylchgrawn cymdeithasegol cyntaf, L'Année Sociologique, a bu'n darlithio ac ysgrifennu ar bynciau megis addysg, trosedd, crefydd, hunanladdiad a nifer o agweddau eraill ar gymdeithaseg.

Ganed ef yn nhalaith Lorraine yn nwyrain Ffrainc i deulu Iddewig; bu ei dad, ei daid a'i hen daid yn dal swydd rabbi. Ystyriai ef ei hun mai ffenomenen gymdeithasol oedd crefydd.

Aeth i'r École Normale Supérieure yn 1879, yr un flwyddyn a Jean Jaurès a Henri Bergson. Treuliodd flwyddyn yn astudio yn yr Almaen cyn cael swydd darlithydd yng ngholeg hyfforddi athrawon cyntaf Ffrainc yn Bordeaux yn 1887. Dechreuodd gyhoeddi traethodau yn y 1890au. Yn 1902 daeth yn Athro addysg yn y Sorbonne.

Astudiaethau[golygu | golygu cod]

  • R. Elwyn Hughes, Durkheim, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)