Zhu Xi

Oddi ar Wicipedia
Zhu Xi
Ganwyd18 Hydref 1130 Edit this on Wikidata
Youxi County Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1200 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Song Edit this on Wikidata
Addysgjinshi Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, athronydd, hanesydd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amZizhi Tongjian Gangmu Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluJian Zhou Edit this on Wikidata
TadZhu Song Edit this on Wikidata
MamZhu Shi Edit this on Wikidata
PriodLiu Shi Edit this on Wikidata
PlantZhu Shu, Zhu Ye, Zhu Zai Edit this on Wikidata

Ysgolor Conffiswsiaidd oedd Zhū​ Xī​ neu Chu Hsi (18 Hydref 1130 - 23 Ebrill 1200) a anwyd yn Youxi, Fujian, Tsieina yn ystod cyfnod Brenhinllin Sòng Cháo (960-1279). Daeth i fod yn resymegydd Neo-Gonffiwsiaidd mwyaf dylanwadol yn Tsieina drwy ddilyn yr ysgol o feddwl a elwir yn 'Ysgol yr Egwyddor'. Mae ei gyfraniad i athroniaeth Tsieineaidd yn cynnwys y 'llyfrau' neu'r dogfennau canlynol: Dyrchafu'r Lunyu (Yr Analectau) gan Conffiwsiws,[1] y Meniciws, Y Ddysgeidiaeth Fawr a'r Chung Yung (neu'r Canol Llonydd) a elwir Y Pedwar Llyfr. Mae ei athroniaeth yn ymwneud ag ymchwilio i bethau (gewu) a'r synthesis o holl gysyniadau Conffiwsiaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato