Ysgrifennydd Seneddol Preifat

Oddi ar Wicipedia
Ysgrifennydd Seneddol Preifat
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) yn Aelod Seneddol yn Senedd y Deyrnas Unedig a ddynodwyd gan weinidog uwch yn y llywodraeth neu gan weinidog cysgodol i weithredu fel cyswllt y gweinidog gydag Aelodau Seneddol. Prif ddyletswydd y PPS yw helpu'r llywodraeth i olrhain barn y meinciau cefn yn y Senedd. Mae'r swydd yn cael ei gyfeirio ato yn aml fel un o weithredu fel llygaid a chlustiau'r gweinidog.[1]

Er nad ydy PPSau yn cael eu talu dim sy'n ychwanegol i'w cyflogau fel ASau fainc cefn ac nad ydynt yn cael eu hystyried fel rhan o'r llywodraeth mae'n rhaid iddynt Dilyn Cod Ymddygiad Gweinidogion y Llywodraeth a disgwylir PPSau i weithredu fel rhan o'r bleidlais gyflogres, pleidleisio yn unol â'r llywodraeth ar bob achlysur a gweithredu yn unol â'r rheolau o gydgyfrifoldeb.

Fel arfer y Gweinidogion unigol sy'n dewis eu PPSau eu hunain, ond mae'n rhaid ymgynghori â'r Prif Chwip a derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig gan y Prif Weinidog cyn eu penodi.

Mae rôl y PPS yn cael ei weld fel y ffon gyntaf ar yr ysgol i'r sawl sydd ag uchelgais o ddyfod yn weinidogion eu hunain rhyw ddydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BBC News|politics Parliamentary private secretaries [1] adalwyd 4 mai 2015
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.