Yr Ysbryd Glân

Oddi ar Wicipedia
Portread o'r Ysbryd Glân ar ffurf colomen wen mewn gwydr lliw gan Gian Lorenzo Bernini yng nghrongafell Basilica Sant Pedr, Dinas y Fatican.

Yn ôl Cristnogaeth, trydydd person y Drindod yw'r Ysbryd Glân. Gellir ei ystyried yn bresenoldeb ysbrydol y Duwdod yn y byd.

Datblygodd diwinyddiaeth yr Ysbryd Glân mewn ymateb i ddadleuon yn yr Eglwys Fore ynglŷn â'r berthynas rhwng Duw'r Tad ac Iesu, Duw'r Mab. Cafodd Ariadaeth ei chondemnio gan Gyngor Nicaea yn 325 am iddi ddysgu taw creadur oedd y Mab ac nid yn gyfartal nac yn gyd-dragwyddol â'r Tad. Yn 381 cafodd y syniad taw creadigaeth gan y Mab yw'r Ysbryd Glân ei chondemnio gan Gyngor Caergystennin. Erbyn yr 11g derbyniai'r filioque gan Eglwys Rhufain, hynny yw ychwanegiad at Gredo Nicea-Caergystennin sydd yn awgrymu bod yr Ysbryd Glân yn deillio o'r Tad a'r Mab. Hwn oedd un o'r gwahaniaethau mewn athrawiaeth Gristnogol a arweiniodd at y Sgism Fawr yn 1054.

Cynrychiolir yr Ysbryd Glân yn yr ysgrythur drwy drosiadau: y golomen wen, symbol heddwch a chymod; corwynt, symbol nerth; a thafodau tân, symbol o berlewyg credinwyr.