Yr Eglwys Uniongred Syrieg

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Uniongred Syrieg San Siôr yn Damascus, Syria.

Eglwys Gristnogol hunanbenaethol sydd yn rhan o'r traddodiad Uniongred Dwyreiniol yw'r Eglwys Uniongred Syrieg (yn llawn: Patriarchaeth Uniongred Syrieg Antioch a'r Holl Ddwyrain). Yn yr 21g tua 1.4 miliwn o ddilynwyr sydd gan yr eglwys, a thriga'r mwyafrif ohonynt yn Syria, Libanus, Irac, a Thwrci, a lleiafrifoedd yn Iorddonen, yr Aifft, a'r Unol Daleithiau.[1]

Mae'r eglwys yn olrhain ei hanes i'r 5g a'r 6g, pryd wrthododd nifer o Gristnogion yn Syria batriarchiaid Antioch oedd yn cefnogi datganiadau Cyngor Chalcedon (451), sy'n dal taw dwy natur a geir ym mherson Iesu Grist, y dynol a'r dwyfol. Proffesai'r gwrthodwyr athrawiaeth miaffysaidd, yn debyg i Gristnogion eraill yn yr Aifft, Ethiopia, Armenia a'r India ac yn dilyn dysgeidiaeth Sant Cyril o Alecsandria bod dwyfoldeb Iesu Grist ynghlwm â'i gnawd, ac felly un natur arbennig oedd ganddo. Sefydlasant batriarchaeth eu hunain yn Antioch, ar wahân i'r Calcedoniaid. Cafodd Sant Jacob Barabaeus, Esgob Edessa, ddylanwad cryf ar hanes cynnar y gymuned.

Yn yr 17g, ymunodd lleiafrif o Gristnogion Syriaidd â'r Eglwys Babyddol, gan sefydlu'r Eglwys Gatholig Syriaidd. Mabwysiadodd yr eglwys ei enw cyfredol yn y flwyddyn 2000, gan ddefnyddio'r gair "Syrieg" i wahaniaethu rhyngddi a'r Eglwys Gatholig Syriaidd. Cyfeiria'r enw at y dafodiaith Aramaeg a ddefnyddir yn iaith litwrgïaidd gan yr eglwys, a hefyd yn iaith bob dydd gan rai o'i dilynwyr. Mae'r eglwys mewn cymundeb ag eglwysi Uniongred Dwyreiniol eraill, ac yn aelod o Gyngor Eglwysi'r Byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]