Ynys Lantau

Oddi ar Wicipedia
Ynys Lantau
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth105,526 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirdosbarth o ysysoedd (uned weinyddol) Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Arwynebedd146.38 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr934 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr De Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.2706°N 113.9528°E Edit this on Wikidata
Hyd27 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Hong Cong; mae Ynys Lantau yr un goch

Ynys Lantau (Mandarin: 大嶼山) yw'r ynys fwyaf yn Hong Cong, sydd wedi'i lleoli ar aber Afon Perl.Tan yn ddiweddar, roedd yr ynys yn gartref i sawl pentref pysgotwyr, megis Mui Wo, Tai O, Tong Fuk a Sha Lo Wan. Erbyn hyn, mae datblygiadau mawr wedi 'u cwblhau, gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Hong Cong a gwbwlhawyd ym 1998, Disneyland Hong Cong yn 2005, a thref newydd Tung Chung yn ymyl y maes awyr.

Mynydd Lantau a'r Bwda Mawr

Mae Mynachdy Po Lin yn un o sawl mynachdy ar Ynys Lantau,[1] ac yn sefyll wrth ochr y Bwda Mawr Tian Tan. Adeiladwyd y Bwda Mawr ym 1993; mae'n 34 metr o uchder a chymerodd 12 mlynedd i'w adeiladu. Ceir 268 o risiau yn arwain ato.[2][3]

Tai O
Tai ar byst, Tai O

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r ynys wedi bod yn bwysig trwy hanes oherwydd ei lleoliad ar aber Afon Perl, ac mae archaeologwyr wedi darganfod olion o Oes Newydd y Cerrig. Adeiladwyd caer yn ystod y 12g i rwystro smyglwyr. Daeth masnachwyr o Bortwgal i Tai O, ond gadawsant ar ôl rhyfeloedd rhwng Tsieina a Phortugal ym 1521 a 1522. Adeiladwyd teml, erbyn hyn Teml Hau Wong, yn Tai O ym 1699.

Mynachdy Po Lin

Adeiladwyd caer yn wynebu'r môr ar ben de orllewinol yr ynys ym 1729. Yn ystod y 18g daeth yr ynys yn gartref i fôr-ladron, ond o'r diwedd daethont yn rhan o lynges Tsieina.

Sefydlwyd gwersyllfa ym Mae Silvermine yn y 1960au, i roi cyfle i blant tlawd gael gwyliau yn yr awyr iach. Erbyn hyn, roedd gwasanaethau fferi rhwng Ynys Hong Cong a Bae Silvermine a Mui Wu wedi agor.[4]

Cludiant[golygu | golygu cod]

Mae rheilffyrdd MTI yn cysylltu'r ynys i'r tir mawr ac i Ynys Hong Cong[5] a hefyd ffordd, y Cysyllt Lantau.

Yn cysylltu'r arfordir efo ucheldir yr ynys ceir car cablen Ngong Ping 360, adeiladwyd yn 2006, yn hwyluso'r daith i Fynachdy Po Lin a'r Bwda Mawr. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd rhwng Ynys Hong Cong a'r ynys[6] a gwasanaethau bysiau hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan lantauonline
  2. "Gwefan discoverhongkong". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-23. Cyrchwyd 2016-06-26.
  3. Gwefan china.org.cn
  4. Gwefan lantau-island.com
  5. Gwefan Map MTI
  6. Gwefan lantauonline

Dolen allanol[golygu | golygu cod]