Ynys Dewi

Oddi ar Wicipedia
Ynys Dewi
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3.2 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr136 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.865301°N 5.341257°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Ynys Dewi (Saesneg: Ramsey Island) yn ynys oddi ar arfordir Penfro, gyferbyn â Thyddewi.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Amgylchynir yr ynys â chlogwyni syrth ac mae'r môr yn rhedeg yn gyflym o'i chwmpas. Ei hyd yw 3.2 km. Mae'n cynnwys 600 erw o dir ac yn codi i 445' (135m) yn ei phwynt uchaf. Mae ei chreigiau'n perthyn i'r cyfnod Ordoficiaidd yn bennaf. Ceir nifer o ffosilau yng ngogledd yr ynys.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion clas (hen fynachlog) a sefyflwyd gan Ddefynog Sant yn gynnar yn Oes y Seintiau. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu Dewi Sant a Sant Padrig. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle.

Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i Sant Iestyn (Lladin, Justinian, neu Stian) tua'r flwyddyn 500. Meudwy o Lydaw oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherdded dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynnodd i gael ei gladdu yno; mae olion Capel Iestyn i'w gweld yno heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.

Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinion yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.

Bu ffermio ar yr ynys, er gwaethaf ei natur greigiog, tan yn bur ddiweddar, ac roedd y gymuned fach yn allforio ŷd, menyn, defaid a gwlân i'r tir mawr hyd 1964. Yn 1992 gwerthwyd yr ynys i'r RSPB.

Natur[golygu | golygu cod]

Mae'r ynys yn warchodfa natur ac yn gartref i filoedd o adar môr. Mae mwy na 30 math o adar yn nythu arni. Mae adar fel cigfrain, hebogiaid gleision, gwylanod coesddu a gwylanod eraill i'w gweld yn rheolaidd. O gwmpas yr ogofeydd ac ar y traethau bach niferus gwelir morloi llwydion ym mis Awst a Medi.

Creigiau basalt ger Porth Lleuog
Ynys Dewi o Dyddewi

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]