Yitzhak Rabin

Oddi ar Wicipedia
Yitzhak Rabin
Ganwyd1 Mawrth 1922 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1995 Edit this on Wikidata
Tel Aviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kadoorie Agricultural High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, swyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Israel, Chief of the General Staff, Minister of Communications, Minister of Defence, Minister of Defence, Minister of Health, Aelod o'r Knesset, Prif Weinidog Israel, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Ambassador of Israel to the United States, Minister of Religious Services Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Lafur Israel Edit this on Wikidata
TadNehemiah Rabin Edit this on Wikidata
MamRosa Cohen Edit this on Wikidata
PriodLeah Rabin Edit this on Wikidata
PlantDalia Rabin-Pelossof, Yuval Rabin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ryddid Ronald Reagan, Gwobr Heddwch Nobel, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Gwobr Doethuriaeth Ben Gourion, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd, gwladweinydd a chadfridog Israelaidd oedd Yitzhak Rabin (/rəˈbn/;[1] Hebraeg: יצחק רבין, IPA: [jitsˈχak ʁaˈbin] (Ynghylch y sain ymagwrando); 1 Mawrth 19224 Tachwedd 1995). Ef oedd pumed Prif Weinidog Israel, a gwasanaethodd am ddau dymor, 1974–77 a 1992 hyd at ei lofruddiad yn 1995.

Ganwyd Rabin yn Jerwsalem i fewnfudwyr Iddewig-Wcranaidd a'i fagu mewn cartref Seionaidd. Dysgodd am amaethyddiaeth yn yr ysgol gan ragori fel disgybl. Cafodd yrfa 27 mlynedd fel milwr. Pan yn ei arddegau, ymunodd â'r Palmach, llu cylchfilwyr yr Yishuv. Esgynodd o fewn i'r fyddin a dod yn bennaeth gweithrediadau yn Rhyfel Annibyniaeth Israel. Ymunodd â Llu Amddiffyn Israel (LlAI) ar ddiwedd 1948 a pharhau i esgyn fel swyddog addawol. Cynorthwyodd i lunio dull hyfforddi'r LlAI ar ddachrau'r 1950au, ac arwain Cyfarwyddiaeth Amddiffyn LlAI rhwng 1959 a 1963. Cafodd ei benodi'n Bennaeth Staff Cyffredinol yn 1964 a goruchwylio buddugoliaeth Israel yn  He was appointed Chief of the General Staff yn Rhyfel Chwe Diwrnod 1967.

Gwasanaethodd Rabin fel llysgennad Israel i'r Unol Daleithiau rhwng 1968 a 1973, yn ystod cyfnod o gryfhau cysylltiadau rhwng y ddwy wlad. Cafodd ei benodi'r Brif Weinidog Israel yn 1974, yn dilyn ymddiswyddiad Golda Meir. Yn ystod ei dymor cyntaf, arwyddodd Rabin Gytundeb Interim Sinai a gorchymyn cyrch Entebbe. Ymddiswyddodd yn 1977 yn dilyn sgandal ariannol. Rabin oedd gweinidog amddiffyn Israel am y rhan fwyaf o'r 1980au, gan gynnwys ar ddechrau'r Intifada Cyntaf.

Yn 1992, cafodd Rabin ei ail-ethol fel prif weinidog ar lwydan a oedd yn cofleidio'r proses heddwch rhwng Israel a Phalesteina. Arwyddodd nifer o gytundebau hanesyddol gyda'r arweinyddiaeth Palesteinaidd fel rhan o Gytundebau Oslo. Yn 1994, enillodd Rabin Wobr Heddwch Nobel ynghyd a'i wrthwynebydd gwleidyddol Shimon Peres a'r arweinydd Palestinaidd Yasser Arafat. Arwyddodd Rabin hefyd gytundeb heddwch gyda;r Iorddonen yn 1994. Yn Nhachwedd 1995, cafodd ei lofruddio gan eithafwr o'r enw Yigal Amir, a oedd yn gwrthwynebu telerau Cytundebau Oslo. Cafodd Amir ei arestio a'i gyhuddo a'i ddyfarnu'n euog o lofruddiaeth Rabin; cafodd ei ddedfrydu am oes. Rabin oedd y prif weinidog cyntaf i gael ei eni yn Israel, yr unig brif weinidog i gael ei lofruddio a'r ail i farw tra'n dal swydd yn y llywodraeth (yn dilyn Levi Eshkol). Mae Rabin wedi dod yn symbol o'r proses heddwch rhwng Israel a Palesteina.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]