Yann-Vari Perrot

Oddi ar Wicipedia
Yann-Vari Perrot
Ganwyd3 Medi 1877 Edit this on Wikidata
Plouarzhel Edit this on Wikidata
Bu farw12 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
Skrigneg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Offeiriad a chenedlaetholwr Llydewig oedd yr abbé Yann-Vari Perrot, Ffrangeg: Jean-Marie Perrot (3 Medi 187712 Rhagfyr 1943).

Ganed Perrot yn Plouarzhel, Penn-ar-Bed i deulu Llydaweg ei iaith. Astudiodd i fynd yn offeiriad, ac yn 1904 daeth yn ficer Sant-Nouga. Sefydlodd Bleun-Brug ("Blodau'r Grug") yn 1905, i gefnogi'r diwylliant Llydewig a Chatholigiaeth, ac wedi 1911 daeth yn olygydd y cylchgrawn Feiz ha Breiz ("Ffydd a Llydaw"). Daeth yn ficer Saint-Thégonnec yn 1914, yna bu'n ymladd ym myddin Ffrainc yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn amlwg yn Emsav, y mudiad cenedlaethol Llydewig.

Yn 1920, daeth yn ficer Plougerne. Yn 1930 symudwyd ef gan yr eglwys, oedd yn anhapus ynghylch ei waith gwleidyddol, i blwyf Skrigneg, lle roedd gwleidyddiaeth adain-chwith yn gryf. Dathlwyd ef gan y gymdeithas ddiwylliannol Bleun-Brug yn 1936, am hybu pethau Llydaweg yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, ysgrifennu a'r mudiad ieuenctid, mewn rhifyn arbennig o ‘’Oeuvres Bretonnes’’ Pan feddiannwyd Llydaw gan fyddin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhuddwyd ef o gydweithio gyda'r Almaenwyr. Ar 12 Rhagfyr 1943, llofruddiwyd ef gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol,

Wedi ei farwolaeth, defnyddiodd Célestin Lainé ei enw ar gyfer Bezen Perrot, a ffurfiwyd i gefnogi'r Almaen.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]