Y Gynghrair Bêl-droed

Oddi ar Wicipedia

Cystadleuaeth bêl-droed sy'n cynnwys timau pêl-droed o Loegr a Chymru ydy Y Gynghrair Bêl-droed (Saesneg: The Football League). Fe'i ffurfiwyd ym 1888, sy'n golygu ei fod y gynghgrair hynnaf yn y byd pêl-droed. Hon oedd brif gynghrair bêl-droed Lloegr ers ei sefydlu, hyd nes 1992 pan dorodd 22 o glybiau'n rhydd er mwyn ffurfio Uwch Gynghrair Lloegr.

Y Bencampwriaeth[golygu | golygu cod]

Hyd at dymor 1992/1993, pan sefydlwyd Uwchgynghrair Lloegr, roedd Y Bencampwriaeth (Saesneg: The Championship) yn cael ei adnabod fel yr Ail Adran. Rhwng 1993 a 1995, roedd yn cael ei adnabod fel yr Adran Gyntaf cyn cael ei enw presennol.

Yr Adran Gyntaf[golygu | golygu cod]

Hyd at dymor 1992/1993, pan sefydlwyd Uwchgynghrair Lloegr, roedd yr Adran Gyntaf neu Adran 1 (Saesneg: League One) yn cael ei hadnabod fel y Drydedd Adran. Rhwng 1993 a 1995, roedd yn cael ei adnabod fel yr Ail Adran cyn cael ei enw presennol.

Yr Ail Adran[golygu | golygu cod]

Hyd at dymor 1992/1993, pan sefydlwyd Uwchgynghrair Lloegr, roedd yr Ail Adran neu Adran 2 (Saesneg: League Two) yn cael ei hadnabod fel y Bedwaredd Adran. Rhwng 1993 a 1995, roedd yn cael ei adnabod fel y Drydedd Adran cyn cael ei enw presennol.