Y Dywysoges a'r Bysen

Oddi ar Wicipedia
Y Dywysoges a'r Bysen
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurHans Christian Andersen Edit this on Wikidata
IaithDaneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi8 Mai 1835 Edit this on Wikidata
Genretale, literary fairy tale Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Stori fer i blant gan Hans Christian Andersen yw Y Dywysoges a'r Bysen (Daneg: "Prinsessen på Ærten").[1] Fe'i gyhoeddwyd yn gyntaf ar 8 Mai 1835 yn Copenhagen gan C. A. Reitzel.

Roedd Andersen, yn fwy na thebyg, wedi clywed y stori pan oedd yn blentyn.[2] Nid oedd y stori wedi'i chofnodi cyn hynny, felly mae'n perthyn i'r diwylliant llafar o drosglwyddo gwybodaeth o riant i blentyn.

Wedi cyhoeddi'r Dywysoges a'r Bysen, derbyniodd feirniadaeth negyddol iawn gan y darllenwyr Daneg, oherwydd eu bod wedi'u hysgrifennu mewn arddull rydd, tebyg i sgwrs, ac nad oedd y foeswers yn ddigon cryf.[3]

Addaswyd y stori yn 1959 ar gyfer drama gerdd ac a oedd yn serennu Carol Burnett. Cafodd addasiad Cymraeg ei berfformio yn 2018 gan Theatr y Sherman.[4]

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Roedd y tywysog eisiau canfod tywysoges i'w phriodi. Ond nid oedd pob tywysoges yn dywysoges go iawn. Un noson, pan arhosodd dynes yn y palas i gael lloches rhag storm, teimlodd bysen trwy ugain matres ac ugain cwilt. Yn ôl y stori dim ond tywysogesau go wir allai wneud hyn, felly priododd y tywysog hi.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Arkiv for Dansk Litteratur - Hans Christian Andersen - Prindsessen paa Ærten". web.archive.org. 2008-05-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-18. Cyrchwyd 2019-01-27.
  2. 1805-1875., Andersen, H. C. (Hans Christian), (2008). The annotated Hans Christian Andersen. Tatar, Maria, 1945- (arg. 1st ed). New York: W.W. Norton. ISBN 9780393060812. OCLC 164570520.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: numeric names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  3. Wullschlager (2000), pp. 159–160none
  4. "Y Dywysoges A'r Bysen Fechan Fach : Theatr y Sherman". web.archive.org. 2019-01-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-28. Cyrchwyd 2019-01-29.