Y Creunant

Oddi ar Wicipedia
Y Creunant
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,910 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAlençon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,169.6 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.728°N 3.747°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000609 Edit this on Wikidata
Cod OSSN793047 Edit this on Wikidata
Cod postSA10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Y Creunant (Saesneg: Crynant). Saif yng Nghwm Dulais tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd ac i'r de o bentref Blaendulais, ar y briffordd A4109.

Mae Afon Dulais yn llifo heibio iddo, gyda Mynydd Marchywel i'r gorllewin, Hirfynydd i'r dwyrain a Mynydd y Drum i'r gogledd.

Amgueddfa Lo Cefn Coed

Roedd Treforgan ar un adeg yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae'n rhan o'r Creunant. Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gyntaf, Maes Mawr, yn 1874. Roedd glofa Cefn Coed yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed ar safle hen lofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Creunant (pob oed) (1,910)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Creunant) (465)
  
25.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Creunant) (1631)
  
85.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Y Creunant) (331)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]