Woolworths

Oddi ar Wicipedia
Woolworths
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyd-stoc
Diwydiantmanwerthu
TyngedDaeth i ben
Sefydlwyd1909
SefydlyddFranklin Winfield Woolworth
Daeth i ben2009
PencadlysLlundain
Rhiant-gwmni
F. W. Woolworth Company
Gwefanhttp://www.woolworthsgroupplc.com/ Edit this on Wikidata
Un o siopau Woolworths

Cwmni yn y DU oedd yn masnachu dan yr enw Woolworths oedd y Grŵp Woolworth. Lleolwyd pencadlys y cwmni yn Llundain.

Cafodd y siop Woolworths gyntaf yng ngwledydd Prydain ei sefydlu yn Lerpwl, Lloegr, yn 1909, fel cangen o'r cwmni Americanaidd F.W. Woolworths & Co a sefydlwyd gan Franklin Winfield Woolworth. Am flynyddoedd roedd siopau Woolworths yn olygfa gyfarwydd ar y Stryd Fawr mewn nifer o drefi ledled Prydain.

Ar 26 Tachwedd 2008, gwaharddwyd masnachu cyfranddaliadau Woolworths Group ccc, ac aeth ei is-gwmnïau Woolworths ac Entertainment UK i weinyddiaeth. Caeodd Deloitte y cyfan o siopau Woolworths rhwng 27 Rhagfyr 2008 a 6 Ionawr 2009, gan arwain at golli 27,000 o swyddi. Aeth Woolworths Group ccc i weinyddiaeth ar 27 Ionawr 2009, a diddymwyd y cwmni yn swyddogol ar 13 Hydref 2015[1].

Ym mis Chwefror 2009, prynodd Shop Direct nod masnach a chyfeiriad rhyngrwyd Woolworth, a barhaodd fel gwefan adwerthu nes y cafodd ei gau ym Mehefin 2015.

Agweddau daearegol[golygu | golygu cod]

Mae gwenithfaen du y larvikite sydd o dan ffenestri'r hen Woolworths yng Nghaernarfon i'w weld yn yr un lle, fel rhan o “frand” y cwmni mae’n siwr, o dan ffenestri Woolworths ymhobman.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]