William Forbes Skene

Oddi ar Wicipedia
William Forbes Skene
William Forbes Skene, llun gan George Reid, c. 1888.
Ganwyd7 Mehefin 1809 Edit this on Wikidata
Rubislaw Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1892 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol St Andrews
  • Edinburgh Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
TadJames Skene o Rubislaw Edit this on Wikidata
MamJane Forbes Edit this on Wikidata

Hanesydd a hynafiaethydd o'r Alban oedd William Forbes Skene (7 Mehefin 1809 - 29 Awst 1892).

Roedd yn fab i James Skene (17751864), o Rubislaw, ger Aberdeen, cyfaill i Syr Walter Scott. Addysgwyd ef yn Academi Caeredin a Phrifysgol St Andrews, gan gymeryd diddordeb arbennig mewn astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd.

Yn 1837 cyhoeddodd The Highlanders of Scotland, their Origin, History and Antiquities. Bu'n gweithio i Lys y Sesiwn, yna yn 1847, yn ystod newyn yn Ucheldiroedd yr Alban, bu'n ysgrifennydd i'r Central Board for Highland Relief. Bu farw yng Nghaeredin ar 29 Awst 1892.

Ei brif waith oedd Celtic Scotland, a History of Ancient Alban (5 cyfrol, Caeredin, 1876-1880). Cyhoeddodd argraffiad o'r Chronica genus Scotorum gan John o Fordun (Caeredin, 1871–1872); The Four Ancient Books of Wales (Caeredin, 1868); Chronicles of the Picts and Scots (Caeredin, 1867); y Vita S. Columbae gan Adomnán (Caeredin, 1874); Essay on the Coronation Stone of Scone (Caeredin, 1869); a Memorials of the Family of Skene of Skene (Aberdeen, 1887).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • "Skene, William Forbes." British Authors of the Nineteenth Century H. W. Wilson Company, Efrog Newydd, 1936.