William Bingley

Oddi ar Wicipedia
William Bingley
GanwydIonawr 1774 Edit this on Wikidata
Doncaster Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd7 Ionawr 1774 Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1823 Edit this on Wikidata
Charlotte Street Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnaturiaethydd, clerig Edit this on Wikidata
PlantWilliam Bingley Edit this on Wikidata

Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith Seisnig oedd William Bingley (Ionawr 177411 Mawrth 1823). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn ogystal. Cyhoeddodd ddau lyfr am ei deithiau yng Ngogledd Cymru ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19g.

Myfyriwr ifanc ar ei wyliau oedd Bingley pan deithiodd o gwmpas gogledd Cymru y tro cyntaf. Roedd hynny yn y flwyddyn 1798, pan lesteirwyd pobl rhag mynd ar y Grand Tour ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y Chwyldro Ffrengig. Ac eithrio Thomas Pennant, Bingley yw un o'r teithwyr cynharaf i gofnodi ei brofiad o deithio yng Nghymru; arfer a ddaeth yn ffasiynol iawn dros y degawdau olynol a welodd gyhoeddi rhai dwsinau o lyfrau taith gan y twristiaid cynnar hyn. Ychydig o werth sydd i'r rhan fwyaf o'r cyfrolau, ond mae llyfr Binlgey, Tour round North Wales (1800), yn wahanol. Mae penodau fel ei daith i ben Yr Wyddfa i chwilio am blanhigion prin yn sefyll allan. Mae ganddo hanesion am leoedd a phobl hefyd, wedi'i sgwennu mewn arddull bywiog gan rywun a ymddiddorai yn y Cymry a'u traddodiadau.

Cyhoeddodd ail gyfrol, North Wales Delineated from Two Excursions, yn 1804. Diddorol hefyd yw ei gyfrol arloesol ar gerddoriaeth Cymru, Sixty of the Most Admired Welsh Airs.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]